Search Legislation

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 35

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, Adran 35 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 08 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

35Rhan 1: dehongliLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)At ddibenion y Rhan hon—

  • mae i'r ymadrodd “arolygiad arbennig” (“special inspection”) yr ystyr a roddwyd iddo gan adran 21;

  • mae i'r ymadrodd “awdurdod gwella Cymreig” (“Welsh improvement authority”) yr ystyr a roddwyd iddo gan adran 1;

  • mae i'r ymadrodd “awdurdod tân ac achub Cymreig” (“Welsh fire and rescue authority”) yr ystyr a roddwyd iddo gan adran 1(c);

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw blwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill;

  • ystyr “cynllun gwella” (“improvement plan”) yw'r cynllun y cyfeiriwyd ato yn adran 15(6);

  • mae i'r ymadrodd “pwerau cydlafurio” (“powers of collaboration”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 11(1);

  • ystyr “rheoleiddiwr perthnasol” (“relevant regulator”) yw person a grybwyllwyd yn adran 16(2);

  • ystyr “swyddogaethau perthnasol” (“relevant functions”), mewn perthynas â rheoleiddiwr perthnasol, yw'r swyddogaethau a bennwyd mewn cysylltiad â'r rheoleiddiwr yn adran 16(2);

  • ystyr “trefniadau cydlafurio” (“collaboration arrangements”) yw gweithgaredd a gyflawnir wrth arfer pwerau cydlafurio awdurdod gwella Cymreig.

(2)At ddibenion y Rhan hon, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad at awdurdod gwella Cymreig yn arfer swyddogaeth yn cynnwys cyfeiriad at gyflawni gweithredoedd cysylltiedig (megis gwneud trefniadau gweinyddol).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 35 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I2A. 35 mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(m)

Back to top

Options/Help