RHAN 2STRATEGAETHAU CYMUNEDOL A CHYNLLUNIO CYMUNEDOL

Cynllunio cymunedol

38Ystyr “partneriaid cynllunio cymunedol”

(1)

At ddibenion y Rhan hon, y cyrff canlynol yw partneriaid cynllunio cymunedol awdurdod lleol—

(a)

cyngor cymuned ar gyfer cymuned y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol;

(b)

awdurdod tân ac achub Cymreig sydd wedi'i gyfansoddi ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol;

(c)

Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol;

(d)

Ymddiriedolaeth GIG sydd wedi'i phennu mewn perthynas ag ardal yr awdurdod drwy gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru;

(e)

awdurdod Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran o'i ardal yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol;

(f)

awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol;

(g)

prif gwnstabl yr Heddlu ar gyfer ardal heddlu sydd wedi ei grybwyll ym mharagraff (f);

(2)

Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn—

(a)

diwygio neu hepgor unrhyw baragraff yn is-adran (1);

(b)

ychwanegu paragraffau ychwanegol at yr is-adran honno;

(c)

diwygio neu hepgor paragraffau ychwanegol o'r fath.

(3)

Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu pŵer o dan is-adran (2)—

(a)

yn y fath fodd ag i gynnwys, neu ddarparu ar gyfer cynnwys, person yn is-adran (1) nad oes ganddo swyddogaethau cyhoeddus eu natur;

(b)

yn y fath fodd ag i gynnwys, neu ddarparu ar gyfer cynnwys, person yn yr is-adran honno onid ydynt wedi ymgynghori â'r canlynol—

(i)

pan fônt yn bwriadu cynnwys person, y person hwnnw;

(ii)

unrhyw gynrychiolwyr awdurdodau lleol yng Nghymru y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol;

(iii)

unrhyw gynrychiolwyr partneriaid cynllunio cymunedol y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(4)

Os bydd Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan is-adran (2) yn y fath fodd ag i gynnwys, neu ddarparu ar gyfer cynnwys, person yn is-adran (1) y mae ganddo swyddogaethau cyhoeddus a phreifat eu natur, dim ond mewn perthynas â'r swyddogaethau cyhoeddus eu natur y cânt gynnwys y person hwnnw, neu ddarparu ei fod yn cael ei gynnwys.