RHAN 2STRATEGAETHAU CYMUNEDOL A CHYNLLUNIO CYMUNEDOL
Strategaethau cymunedol
I1I240Strategaethau cymunedol: dyletswydd adolygu
1
Rhaid i adolygiad o strategaeth gymunedol gael ei gwblhau'n unol ag adran 41—
a
cyn pedwerydd pen blwydd y dyddiad y cafodd y strategaeth gymunedol ei chyhoeddi o dan adran 39(4); a
b
ar ôl hynny, cyn pedwerydd pen blwydd y dyddiad y cafodd yr adolygiad diwethaf o'r strategaeth gymunedol ei gwblhau.
2
At ddibenion yr adran hon ac adran 41, bydd adolygiad o strategaeth gymunedol wedi'i gwblhau—
a
ar y dyddiad y caiff strategaeth gymunedol ddiwygiedig ei chyhoeddi o dan adran 41(6); neu
b
os na fydd adolygiad yn arwain at unrhyw ddiwygiad i strategaeth gymunedol, ar y dyddiad y penderfynodd yr awdurdod lleol nad oedd yn ofynnol o dan adran 41(4) i'r strategaeth gael ei diwygio.