RHAN 2STRATEGAETHAU CYMUNEDOL A CHYNLLUNIO CYMUNEDOL
Cyfraniad y gymuned
44Cynllunio cymunedol etc: cyfraniad y gymuned
(1)
Rhaid i awdurdod lleol a'i bartneriaid cynllunio cymunedol sicrhau bod trefniadau yn cael eu gwneud er mwyn i'r personau a grybwyllir yn is-adran (2) gael cyfle i leisio eu barn, a chael bod y farn honno yn cael ei hystyried, mewn cysylltiad â'r canlynol—
(a)
cynllunio cymunedol;
(b)
llunio strategaeth gymunedol ar gyfer ardal yr awdurdod; ac
(c)
yr adolygiad o strategaethau cymunedol.
(2)
Y personau yw—
(a)
personau sy'n preswylio yn ardal yr awdurdod lleol;
(b)
personau nad ydynt yn preswylio yn yr ardal honno ond sy'n cael gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod neu un o'i bartneriaid cynllunio cymunedol;
(c)
cynrychiolwyr cyrff gwirfoddol perthnasol;
(d)
cynrychiolwyr personau sy'n rhedeg busnesau yn ardal yr awdurdod;
(e)
personau eraill sydd, ym marn yr awdurdod, â diddordeb ym maes gwella llesiant cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol yr ardal.
(3)
At ddibenion yr adran hon ystyr “cyrff gwirfoddol perthnasol” yw cyrff (ac eithrio awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill) y mae eu gweithgareddau—
(a)
yn cael eu cynnal am resymau nad ydynt yn ymwneud ag elw, a
(b)
o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i'r cyfan neu unrhyw ran o ardal yr awdurdod lleol.
(4)
Mae landlord cymdeithasol cofrestredig (o fewn ystyr “registered social landlord” yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996) sy'n darparu tai yn ardal yr awdurdod lleol yn gorff gwirfoddol perthnasol at ddibenion yr adran hon.