RHAN 2STRATEGAETHAU CYMUNEDOL A CHYNLLUNIO CYMUNEDOL

Dehongli

47Rhan 2: dehongli etc

1

At ddibenion y Rhan hon—

  • mae i “ardal heddlu” yr ystyr a roddir i “police area” gan adran 1 o Ddeddf yr Heddlu 1996;

  • ystyr “awdurdod heddlu” (“police authority”) yw awdurdod heddlu yng Nghymru a sefydlwyd o dan adran 3 o Ddeddf yr Heddlu 1996;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park authority”) yw awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

  • mae i'r ymadrodd “awdurdod tân ac achub Cymreig” (“Welsh fire and rescue authority”) yr un ystyr â'i ystyr yn adran 1(c);

  • rhaid dehongli “cynllunio cymunedol” (“community planning”) yn unol ag adran 37;

  • ystyr “partner cynllunio cymunedol” (“community planning partner”) yw person sy'n dod o fewn adran 38;

  • ystyr “strategaeth gymunedol gyfredol” (“current community strategy”) yw'r strategaeth gymunedol ar gyfer ardal awdurdod lleol a gyhoeddwyd o dan adran 39(4) neu, pan fo'r strategaeth wedi'i diwygio yn dilyn adolygiad o dan adran 41, y strategaeth a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 41(6).

2

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at gam yn cael ei gyflawni neu swyddogaeth yn cael ei harfer er mwyn bodloni un o amcanion strategaeth gymunedol yn gyfeiriad at gam sy'n cael ei gyflawni neu swyddogaeth sy'n cael ei harfer yn y modd sydd wedi ei ddisgrifio yn adran 37(2)(c).

3

Pan fo cyfeiriad yn y Rhan hon at beth sy'n gysylltiedig â swyddogaethau partner cynllunio cymunedol, nid yw'r swyddogaethau hynny'n cynnwys swyddogaethau'r partner o dan y Rhan hon.

4

Caniateir i ddogfen y cyfeiriwyd ati gan y Mesur hon fel “strategaeth gymunedol” (neu gan ymadrodd sy'n cynnwys y term hwnnw) gael ei galw yn lle hynny yn ôl pa enw amgen bynnag y bydd awdurdod lleol a'i bartneriaid cynllunio cymunedol yn cytuno arno.