48CanllawiauLL+C
(1)Mae'r adran hon yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn.
(2)O ran Gweinidogion Cymru—
(a)cânt ddyroddi canllawiau o dan Ran 1 i awdurdodau gwella Cymreig yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â hwy neu mewn cysylltiad ag un neu fwy o awdurdodau penodol;
F1(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(c)cânt ddyroddi canllawiau gwahanol i wahanol awdurdodau gwella Cymreig, awdurdodau lleol neu bartneriaid cynllunio cymunedol neu mewn cysylltiad â hwy;
(d)rhaid iddynt, cyn dyroddi canllawiau, ymgynghori â'r awdurdodau neu'r partneriaid o dan sylw neu bersonau y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli'r awdurdodau neu'r partneriaid hynny; ac
(e)rhaid iddynt drefnu i ganllawiau gael eu cyhoeddi.
Diwygiadau Testunol
F1A. 48(2)(b) wedi ei diddymu (1.4.2016) gan Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (anaw 2), a. 56(2), Atod. 4 para. 22; O.S. 2016/86, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn