4Gofynion ynglŷn â bwyd a diod a ddarperir ar fangre ysgol etc

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ragnodi gofynion y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy, yn ddarostyngedig i'r cyfryw eithriadau ag y darperir ar eu cyfer gan y rheoliadau neu odanynt, mewn cysylltiad â'r canlynol—

(a)bwyd neu ddiod a ddarperir ar fangre unrhyw ysgol a gynhelir, neu

(b)bwyd neu ddiod a ddarperir mewn man ac eithrio mangre ysgol gan awdurdod neu gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ar gyfer unrhyw ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol.

(2)Yn benodol, caiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)pennu safonau maethiad, neu ofynion eraill ynglŷn â maethiad, y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy,

(b)ei gwneud yn ofynnol i fwyd neu ddiod o ddisgrifiadau penodedig beidio â chael eu darparu.

(c)pennu uchafsymiau—

(i)braster,

(ii)braster dirlawn,

(iii)halen, a

(iv)siwgr,

y caniateir i'r bwyd neu'r ddiod eu cynnwys.

(3)Nid yw gofynion a ragnodir yn rhinwedd is-adran (1)(a) yn gymwys i fwyd y deuir ag ef neu ddiod y deuir â hi i fangre ysgol a gynhelir pan ddeuir â'r bwyd neu'r ddiod i'r fangre honno gan unrhyw berson i'w fwyta neu i'w hyfed gan y person hwnnw ei hun.

(4)Pan fo awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn darparu bwyd neu ddiod—

(a)ar gyfer unrhyw un ar fangre'r ysgol, neu

(b)ar gyfer unrhyw ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol mewn man ac eithrio mangre ysgol,

rhaid i'r awdurdod hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, rhaid i'r corff llywodraethu hwnnw sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ddarpariaethau cymwys yn y rheoliadau.

(5)Mae is-adran (4) yn gymwys p'un a ddarperir y bwyd neu'r ddiod yn unol ag unrhyw ofyniad statudol neu fel arall.

(6)Pan fo—

(a)bwyd yn cael ei ddarparu neu ddiod yn cael ei darparu ar fangre ysgol a gynhelir,

(b)y ddarpariaeth yn cael ei gwneud gan berson (“X”) ac eithrio'r awdurdod neu gorff llywodraethu'r ysgol, ac

(c)X yn defnyddio neu'n meddiannu'r cyfan neu ran o'r fangre o dan amgylchiadau sy'n gysylltiedig â chytundeb defnyddio neu feddiannu a wneir (boed gan X neu gan unrhyw berson arall) gyda'r awdurdod neu'r corff llywodraethu,

rhaid i'r awdurdod hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, rhaid i'r corff llywodraethu hwnnw sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ddarpariaethau cymwys yn y rheoliadau.

(7)Mae “cytundeb defnyddio neu feddiannu”, mewn perthynas â mangre ysgol, yn gytundeb neu'n drefniant arall sy'n ymwneud â defnyddio neu feddiannu'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre.

(8)Heb ragfarnu cyffredinolrwydd adran 10, caiff rheoliadau o dan yr adran hon ragnodi—

(a)gofynion gwahanol mewn perthynas â dosbarthau neu ddisgrifiadau gwahanol o ysgol fel y'u pennir yn y rheoliadau,

(b)gofynion gwahanol mewn cysylltiad â bwyd neu ddiod a ddarperir gan neu ar gyfer dosbarthau neu ddisgrifiadau gwahanol o berson fel a bennir yn y rheoliadau,

(c)gofynion sy'n gymwys yn ystod cyfnodau gwahanol o'r dydd fel a bennir yn y rheoliadau.

(9)Ystyr “man ac eithrio mangre ysgol” yw man ac eithrio mangre unrhyw ysgol a gynhelir.

(10)Mae'r cyfeiriadau yn yr adran hon at fwyd neu ddiod a ddarperir gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol yn cynnwys cyfeiriadau at fwyd neu ddiod a ddarperir yn unol â chytundeb neu drefniant arall a wneir gan y cyfryw awdurdod neu gorff ar gyfer darparu bwyd neu ddiod.

(11)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)cymryd camau i ganfod barn disgyblion ar y darpariaethau y bwriedir eu gwneud gan y rheoliadau, a

(b)ymgynghori â'r cyfryw bersonau eraill y maent o'r farn ei bod hi'n briodol ymgynghori â hwy.