5Dŵr yfed mewn ysgolion

(1)

Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod cyflenwad o ddŵr yfed ar gael, yn rhad ac am ddim, ym mangre unrhyw ysgol a gynhelir.

(2)

Pan fydd awdurdod lleol yn penderfynu sut y gall gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) orau, rhaid iddo roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan yr is-adran hon.