6Hybu prydau mewn ysgolion a sefydliadau addysgol eraill
1
Rhaid i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir sy'n darparu prydau ysgol neu laeth o dan adran 512 o Ddeddf 1996—
a
hybu defnyddio prydau a llaeth ysgol, a
b
cymryd camau rhesymol i sicrhau bod pob disgybl sydd â hawl i gael cinio ysgol a llaeth yn rhad ac am ddim o dan adran 512ZB o Ddeddf 1996 yn eu cael.