Comisiynydd Safonau [y Senedd] LL+C
1Y ComisiynyddLL+C
(1)Bydd Comisiynydd Safonau ar gyfer [y Senedd] (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Comisiynydd”).
(2)Mae'r Comisiynydd i'w benodi gan y [Senedd].
(3)Nid yw person yn gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd os yw'r person hwnnw —
(a)yn [Aelod o’r Senedd],
(b)wedi bod yn [Aelod o’r Senedd] ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,
(c)yn aelod o staff y [Senedd],
(d)wedi bod yn aelod o staff y [Senedd] ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,
(e)yn aelod o staff Llywodraeth ... Cymru, neu
(f)wedi bod yn aelod o staff Llywodraeth ... Cymru ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym.
(4)Mae'r Comisiynydd i'w benodi am gyfnod o 6 blynedd.
(5)Ni chaniateir i berson sydd wedi dal swydd y Comisiynydd gael ei benodi am gyfnod arall (yn olynol neu beidio).
(6)Caniateir ar unrhyw adeg i berson sydd wedi'i benodi'n Gomisiynydd —
(a)ymddiswyddo drwy hysbysiad a roddir i'r [Senedd], neu
(b)cael ei ddiswyddo gan y [Senedd].
(7)Ni chaniateir i berson gael ei ddiswyddo o swydd y Comisiynydd o dan is-adran (6)(b) oni bai —
(a)bod y [Senedd] yn penderfynu felly, a
(b)bod nifer y pleidleisiau a fwrir o blaid y penderfyniad, os caiff y penderfyniad ei basio drwy bleidlais, heb fod yn llai na dau draean o gyfanswm y pleidleisiau a fwrir.
(8)Mae penodiad person yn Gomisiynydd yn dod i ben os bydd y person hwnnw —
(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(b)yn cael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol, neu ei ddynodi i arfer swyddogaethau'r swydd honno, o dan adran 49 o'r Ddeddf, neu,
(c)yn cael ei benodi'n aelod o staff y [Senedd] neu o staff Llywodraeth ... Cymru.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
2Prif nod y ComisiynyddLL+C
Prif nod y Comisiynydd wrth arfer swyddogaethau o dan y Mesur hwn yw hybu, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel yn swydd gyhoeddus [Aelod o’r Senedd].
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
3Darpariaeth bellach ynghylch y ComisiynyddLL+C
Mae'r Atodlen yn gwneud rhagor o ddarpariaethau ynghylch y Comisiynydd.
4Penodi Comisiynydd Dros DroLL+C
(1)Pan fydd swydd y Comisiynydd yn wag neu pan fydd y Comisiynydd, am unrhyw reswm, yn methu â gweithredu, caiff y [Senedd] benodi person i gyflawni swyddogaethau'r swydd honno naill ai'n gyffredinol neu mewn perthynas ag unrhyw achos neu ddosbarth o achosion, a hynny hyd at unrhyw amser a bennir gan delerau ac amodau'r penodiad hwnnw; a chyfeirir at berson a benodir felly yn yr adran hon fel y “Comisiynydd dros dro”.
(2)Caiff y Comisiynydd a'r Comisiynydd dros dro ill dau gyflawni swyddogaethau swydd y Comisiynydd ar yr un pryd ond mewn perthynas ag achosion gwahanol.
(3)Nid yw person nad yw'n gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd yn gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd dros dro.
(4)Mae person a benodir yn Gomisiynydd dros dro —
(a)yn cael ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy hysbysiad a roddir i'r [Senedd],
(b)yn gallu cael ei ddiswyddo ar unrhyw adeg gan y [Senedd],
(c)yn peidio â dal y swydd o dan yr amgylchiadau a bennir yn adran 1(8)(a), (b) a (c),
(d)fel arall yn dal y swydd ar unrhyw delerau ac amodau a bennir gan y [Senedd], ac
(e)i'w drin i bob diben (ac eithrio dibenion adran 1), tra bydd yn dal y swydd honno, fel y Comisiynydd.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
5Annibyniaeth y ComisiynyddLL+C
Yn ddarostyngedig i adran 19, wrth iddo arfer unrhyw swyddogaethau, nid yw'r Comisiynydd i ddod o dan gyfarwyddyd neu reolaeth y [Senedd].
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn