xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Comisiynydd Safonau [F1y Senedd] LL+C

Diwygiadau Testunol

1Y ComisiynyddLL+C

(1)Bydd Comisiynydd Safonau ar gyfer [F2y Senedd] (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Comisiynydd”).

(2)Mae'r Comisiynydd i'w benodi gan y [F3Senedd].

(3)Nid yw person yn gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd os yw'r person hwnnw —

(a)yn [F4Aelod o’r Senedd],

(b)wedi bod yn [F4Aelod o’r Senedd] ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,

(c)yn aelod o staff y [F3Senedd],

(d)wedi bod yn aelod o staff y [F3Senedd] ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,

(e)yn aelod o staff Llywodraeth F5... Cymru, neu

(f)wedi bod yn aelod o staff Llywodraeth F6... Cymru ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym.

(4)Mae'r Comisiynydd i'w benodi am gyfnod o 6 blynedd.

(5)Ni chaniateir i berson sydd wedi dal swydd y Comisiynydd gael ei benodi am gyfnod arall (yn olynol neu beidio).

(6)Caniateir ar unrhyw adeg i berson sydd wedi'i benodi'n Gomisiynydd —

(a)ymddiswyddo drwy hysbysiad a roddir i'r [F3Senedd], neu

(b)cael ei ddiswyddo gan y [F3Senedd].

(7)Ni chaniateir i berson gael ei ddiswyddo o swydd y Comisiynydd o dan is-adran (6)(b) oni bai —

(a)bod y [F3Senedd] yn penderfynu felly, a

(b)bod nifer y pleidleisiau a fwrir o blaid y penderfyniad, os caiff y penderfyniad ei basio drwy bleidlais, heb fod yn llai na dau draean o gyfanswm y pleidleisiau a fwrir.

(8)Mae penodiad person yn Gomisiynydd yn dod i ben os bydd y person hwnnw —

F7(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(b)yn cael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol, neu ei ddynodi i arfer swyddogaethau'r swydd honno, o dan adran 49 o'r Ddeddf, neu,

(c)yn cael ei benodi'n aelod o staff y [F3Senedd] neu o staff Llywodraeth F8... Cymru.

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

F7A. 1(8)(a) wedi ei hepgor (yn effeithiol yn unol ag a. 42(1)(c) o'r Ddeddf ddiwygio) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 35(3)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

2Prif nod y ComisiynyddLL+C

Prif nod y Comisiynydd wrth arfer swyddogaethau o dan y Mesur hwn yw hybu, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel yn swydd gyhoeddus [F4Aelod o’r Senedd].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

3Darpariaeth bellach ynghylch y ComisiynyddLL+C

Mae'r Atodlen yn gwneud rhagor o ddarpariaethau ynghylch y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

4Penodi Comisiynydd Dros DroLL+C

(1)Pan fydd swydd y Comisiynydd yn wag neu pan fydd y Comisiynydd, am unrhyw reswm, yn methu â gweithredu, caiff y [F3Senedd] benodi person i gyflawni swyddogaethau'r swydd honno naill ai'n gyffredinol neu mewn perthynas ag unrhyw achos neu ddosbarth o achosion, a hynny hyd at unrhyw amser a bennir gan delerau ac amodau'r penodiad hwnnw; a chyfeirir at berson a benodir felly yn yr adran hon fel y “Comisiynydd dros dro”.

(2)Caiff y Comisiynydd a'r Comisiynydd dros dro ill dau gyflawni swyddogaethau swydd y Comisiynydd ar yr un pryd ond mewn perthynas ag achosion gwahanol.

(3)Nid yw person nad yw'n gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd yn gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd dros dro.

(4)Mae person a benodir yn Gomisiynydd dros dro —

(a)yn cael ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy hysbysiad a roddir i'r [F3Senedd],

(b)yn gallu cael ei ddiswyddo ar unrhyw adeg gan y [F3Senedd],

(c)yn peidio â dal y swydd o dan yr amgylchiadau a bennir yn adran 1(8)(a), (b) a (c),

(d)fel arall yn dal y swydd ar unrhyw delerau ac amodau a bennir gan y [F3Senedd], ac

(e)i'w drin i bob diben (ac eithrio dibenion adran 1), tra bydd yn dal y swydd honno, fel y Comisiynydd.

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

5Annibyniaeth y ComisiynyddLL+C

Yn ddarostyngedig i adran 19, wrth iddo arfer unrhyw swyddogaethau, nid yw'r Comisiynydd i ddod o dan gyfarwyddyd neu reolaeth y [F3Senedd].

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)