Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1Y Comisiynydd
1
Bydd Comisiynydd Safonau ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Comisiynydd”).
2
Mae'r Comisiynydd i'w benodi gan y Cynulliad.
3
Nid yw person yn gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd os yw'r person hwnnw —
a
yn Aelod Cynulliad,
b
wedi bod yn Aelod Cynulliad ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,
c
yn aelod o staff y Cynulliad,
d
wedi bod yn aelod o staff y Cynulliad ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,
e
yn aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru, neu
f
wedi bod yn aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym.
4
Mae'r Comisiynydd i'w benodi am gyfnod o 6 blynedd.
5
Ni chaniateir i berson sydd wedi dal swydd y Comisiynydd gael ei benodi am gyfnod arall (yn olynol neu beidio).
6
Caniateir ar unrhyw adeg i berson sydd wedi'i benodi'n Gomisiynydd —
a
ymddiswyddo drwy hysbysiad a roddir i'r Cynulliad, neu
b
cael ei ddiswyddo gan y Cynulliad.
7
Ni chaniateir i berson gael ei ddiswyddo o swydd y Comisiynydd o dan is-adran (6)(b) oni bai —
a
bod y Cynulliad yn penderfynu felly, a
b
bod nifer y pleidleisiau a fwrir o blaid y penderfyniad, os caiff y penderfyniad ei basio drwy bleidlais, heb fod yn llai na dau draean o gyfanswm y pleidleisiau a fwrir.
8
Mae penodiad person yn Gomisiynydd yn dod i ben os bydd y person hwnnw —
a
yn dod yn ymgeisydd i fod yn Aelod Cynulliad dros un o etholaethau'r Cynulliad neu dros un o ranbarthau etholiadol y Cynulliad,
b
yn cael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol, neu ei ddynodi i arfer swyddogaethau'r swydd honno, o dan adran 49 o'r Ddeddf, neu,
c
yn cael ei benodi'n aelod o staff y Cynulliad neu o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru.