Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1Y Comisiynydd

(1)Bydd Comisiynydd Safonau ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Comisiynydd”).

(2)Mae'r Comisiynydd i'w benodi gan y Cynulliad.

(3)Nid yw person yn gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd os yw'r person hwnnw —

(a)yn Aelod Cynulliad,

(b)wedi bod yn Aelod Cynulliad ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,

(c)yn aelod o staff y Cynulliad,

(d)wedi bod yn aelod o staff y Cynulliad ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,

(e)yn aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru, neu

(f)wedi bod yn aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym.

(4)Mae'r Comisiynydd i'w benodi am gyfnod o 6 blynedd.

(5)Ni chaniateir i berson sydd wedi dal swydd y Comisiynydd gael ei benodi am gyfnod arall (yn olynol neu beidio).

(6)Caniateir ar unrhyw adeg i berson sydd wedi'i benodi'n Gomisiynydd —

(a)ymddiswyddo drwy hysbysiad a roddir i'r Cynulliad, neu

(b)cael ei ddiswyddo gan y Cynulliad.

(7)Ni chaniateir i berson gael ei ddiswyddo o swydd y Comisiynydd o dan is-adran (6)(b) oni bai —

(a)bod y Cynulliad yn penderfynu felly, a

(b)bod nifer y pleidleisiau a fwrir o blaid y penderfyniad, os caiff y penderfyniad ei basio drwy bleidlais, heb fod yn llai na dau draean o gyfanswm y pleidleisiau a fwrir.

(8)Mae penodiad person yn Gomisiynydd yn dod i ben os bydd y person hwnnw —

(a)yn dod yn ymgeisydd i fod yn Aelod Cynulliad dros un o etholaethau'r Cynulliad neu dros un o ranbarthau etholiadol y Cynulliad,

(b)yn cael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol, neu ei ddynodi i arfer swyddogaethau'r swydd honno, o dan adran 49 o'r Ddeddf, neu,

(c)yn cael ei benodi'n aelod o staff y Cynulliad neu o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru.