Pwerau Ymchwilio'r Comisiynydd
11Pŵer i alw am dystion a dogfennau
(1)
Yn unol ag adran 12, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson—
(a)
dod gerbron y Comisiynydd er mwyn rhoi tystiolaeth, neu
(b)
cyflwyno i'r Comisiynydd ddogfennau sydd ym meddiant y person hwnnw neu sydd o dan ei reolaeth,
ynghylch unrhyw fater sy'n berthnasol i ymchwiliad y mae'r Comisiynydd yn ei gynnal o dan y Mesur hwn.
(2)
At ddibenion yr adran hon,
(a)
cymerir bod person yn cydymffurfio â gofyniad i gyflwyno dogfen os bydd yperson hwnnw'n cyflwyno copi o'r ddogfen neu ddarn o'r rhan berthnasol ohoni,
(b)
ystyr “dogfen” yw unrhyw beth y mae gwybodaeth wedi'i chofnodi ynddo ar unrhyw ffurf, ac
(c)
mae cyfeiriadau at gyflwyno dogfen yn gyfeiriadau at gyflwyno'r wybodaetha gofnodwyd ynddi ar ffurf weladwy a darllenadwy.
(3)
Caiff y Comisiynydd dalu unrhyw lwfansau a threuliau rhesymol i bersonau sy'n rhoi tystiolaeth gerbron y Comisiynydd, neu sy'n cyflwyno dogfennau i'r Comisiynydd, yn unol â phenderfyniad y Comisiynydd.