Pwerau Ymchwilio'r Comisiynydd
15Tramgwyddau
(1)
Mae person y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan adran 12(1) yn cyflawni tramgwydd os yw'r person hwnnw —
(a)
yn gwrthod neu'n methu heb esgus rhesymol â dod gerbron y Comisiynydd yn unol â gofynion yr hysbysiad,
(b)
yn gwrthod neu'n methu heb esgus rhesymol, pan fo'n dod gerbron y Comisiynydd yn unol â gofynion yr hysbysiad, ag ateb unrhyw gwestiwn ynghylch y pynciau a bennwyd yn yr hysbysiad,
(c)
yn gwrthod neu'n methu heb esgus rhesymol â chyflwyno unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chyflwyno o dan yr hysbysiad, neu
(d)
yn mynd ati'n fwriadol i newid, atal, celu neu ddinistrio unrhyw ddogfen o'r fath.
(2)
Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i adran 14.
(3)
Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn gwrthod tyngu llw neu roi cadarnhad pan fo'n ofynnol iddo wneud hynny o dan adran 13 yn cyflawni tramgwydd.
(4)
Os bydd person a gyhuddir o dramgwydd o dan is-adran (1)(a), (b) neu (c) neu o dan is-adran (3) yn cyflwyno tystiolaeth o esgus rhesymol dros wrthod neu fethu, mater i'r erlyniad yw profi nad oedd gan y person esgus o'r fath.
(5)
Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan yr adran hon yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod —
(a)
i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol,
(b)
i gael ei garcharu am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis, neu
(c)
i'r ddau.
(6)
Os profir bod tramgwydd o dan yr adran hon wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(a)
cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu
(b)
unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn yn unol â hynny.
(7)
Yn is-adran (6) ystyr “cyfarwyddwr”, yn achos corff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.