Rhan 1 – Apelau a Hawliadau Addysg gan Blant
Apelau anghenion addysgol arbennig
Mae adrannau 1- 8 yn mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Addysg 1996
Adran 1 – Hawl plentyn i apelio i’r Tribiwnlys mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig (mewnosod adran 332ZA newydd yn Neddf Addysg 1996)
5.Mae is-adran (1) o’r adran 332ZA newydd yn pennu seiliau presennol apêl y caiff rhiant i blentyn a chanddo AAA ei gwneud i’r Tribiwnlys.
6.Mae is-adran (2) yn darparu y caiff plentyn apelio i’r Tribiwnlys mewn perthynas â seiliau presennol apêl y caiff rhiant y plentyn ei gwneud.
7.Mae is-adran (3) yn caniatáu i riant a phlentyn apelio ar yr un pryd p’un ai ar yr un seiliau ai ar seiliau gwahanol.
8.Mae is-adran (4) yn darparu bod arfer hawliau a roddir o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau a wnaed gan reoliadau o dan adrannau 332ZC a 336(1) o Ddeddf Addysg 1996.
Adran 2 – Hysbysu plentyn a chyflwyno dogfennau iddo (mewnosod adran 332ZB newydd yn Neddf Addysg 1996)
9.Mae is-adran (1) o’r adran 332ZB newydd yn pennu amryw amgylchiadau pan fo’n rhaid i Awdurdod Addysg Lleol hysbysu rhiant plentyn, neu gyflwyno dogfen i riant plentyn.
10.Mae is-adran (2) yn rhoi dyletswydd ar Awdurdod Addysg Lleol i hysbysu’r plentyn yn ogystal â’r rhiant, neu i gyflwyno dogfen i’r plentyn yn ogystal ag i’r rhiant.
11.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol y bydd unrhyw ddarpariaeth sy’n gymwys i hysbysiadau a roddir, neu ddogfennau a gyflwynir, i riant yr un mor gymwys i hysbysiadau a roddir, neu ddogfennau a gyflwynir, i blentyn.
Adran 3 – Cyfeillion achos (mewnosod adran 332ZC newydd yn Neddf Addysg 1996)
12.Mae is-adran (1) o’r adran 332ZC newydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau syn darparu i blentyn gael person (a elwir “cyfaill achos”) i wneud cynrychioliadau ar ran y plentyn er mwyn osgoi neu ddatrys anghydfodau rhwng y plentyn a’r Awdurdod Addysg Lleol neu er mwyn arfer, ar ran y plentyn, hawl plentyn i apelio.
13.Mae is-adran (2) yn pennu dyletswyddau’r cyfaill achos pan fydd yn gwneud cynrychioliadau neu apêl ar ran plentyn.
14.Mae is-adran (3) yn darparu y caiff rheoliadau, a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon, (ymhlith pethau eraill) roi swyddogaethau i’r Tribiwnlys a gosod gweithdrefnau mewn perthynas â chyfeillion achos. Caiff rheoliadau hefyd wneud darpariaeth ynghylch penodi neu ddiswyddo cyfaill achos, pennu amgylchiadau pan gaiff person neu pan na chaiff person weithredu fel cyfaill achos, pennu amgylchiadau pan fo’n rhaid i blentyn gael cyfaill achos, a phennu gofynion mewn cysylltiad ag ymddygiad cyfaill achos.
Adran 4 – Cyngor a gwybodaeth (diwygio adran 332A a mewnosod adran 332AA newydd yn Neddf Addysg 1996)
15.Diwygir adran 332A o Ddeddf Addysg 1996 fel ei bod yn gymwys i Loegr yn unig.
16.Mewnosodir adran 332AA newydd yn Neddf Addysg 1996.
17.Mae is-adran (1) o’r adran newydd yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol yng Nghymru i drefnu bod cyngor priodol a gwybodaeth briodol ynghylch materion sy’n ymwneud ag AAA'r plentyn yn cael eu darparu ar gyfer unrhyw blentyn yn eu hardal a chanddo AAA, ac unrhyw riant neu gyfaill achos i blentyn o’r fath.
18.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru pan fydd yr Awdurdodau’n gwneud trefniadau i ddarparu cyngor a gwybodaeth i blant, i’w rhieni neu i’w cyfeillion achos.
19.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol gydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru ac sy’n ymwneud â threfniadau rhoi cyngor a gwybodaeth.
20.Mae is-adran (4) yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i sicrhau bod plant, rhieni, penaethiaid ysgolion a pherchenogion ysgolion yn eu hardal, a phersonau eraill o’r fath y mae’r Awdurdodau o’r farn eu bod yn briodol, yn ymwybodol bod gwasanaethau cyngor a gwybodaeth ar gael.
Adran 5 – Datrys anghydfodau (diwygio adran 332B a mewnosod adran 332BA newydd yn Neddf Addysg 1996)
21.Diwygir adran 332B o Ddeddf Addysg 1996 fel ei bod yn gymwys i Loegr yn unig.
22.Mewnosodir adran 332BA newydd yn Neddf Addysg 1996.
23.Mae is-adran (1) o’r adran newydd yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol yng Nghymru i wneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau datrys anghydfodau sy’n wasanaethau annibynnol er mwyn osgoi neu ddatrys anghytundebau rhwng yr Awdurdod Addysg Lleol a phlentyn a’r Awdurdod Addysg Lleol a rhiant i blentyn.
24.Mae is-adran (2) yn gorfodi Awdurdodau Addysg Lleol i wneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau datrys anghydfodau sy’n wasanaethau annibynnol gyda’r bwriad o osgoi neu ddatrys anghydfodau rhwng plentyn a pherchennog ysgol a rhiant a pherchennog ysgol.
25.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer penodi person annibynnol i helpu i osgoi neu ddatrys anghydfodau.
26.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru pan fydd yr Awdurdodau’n gwneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau datrys anghydfodau.
27.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth a wnaed mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud â gwasanaethau datrys anghydfodau.
28.Mae isadran (6) yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i sicrhau bod plant, rhieni, penaethiaid ysgolion a pherchenogion ysgolion yn eu hardal, a phersonau eraill o'r fath y mae’r Awdurdodau o’r farn eu bod yn briodol, yn ymwybodol bod gwasanaethau datrys anghydfodau ar gael.
29.Mae is-adran (7) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol hysbysu plant, rhieni a chyfeillion achos ar gyfer plant yn eu hardal na fydd cymryd rhan mewn trefniadau datrys anghydfodau yn effeithio ar hawl rhiant neu blentyn i apelio i’r Tribiwnlys.
Adran 6 – Gwasanaethau eirioli annibynnol (mewnosod adran 332BB newydd yn Neddf Addysg 1996)
30.Mae is-adran (1) o adran 332BB newydd yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol yng Nghymru i drefnu bod gwasanaeth eirioli annibynnol ar gael yn eu hardal, a bod plentyn neu gyfaill achos ar gyfer plentyn yn cael ei gyfeirio at y gwasanaeth pe byddai’n gofyn am hynny.
31.Mae is-adran (2) yn diffinio “independent advocacy services” (gwasanaethau eirioli annibynnol) yn wasanaethau a fwriedir ar gyfer darparu cyngor a chymorth i blentyn sy’n ystyried p’un ai i apelio i’r Tribiwnlys ai peidio, sydd wedi gwneud neu sy’n bwriadu gwneud apêl, neu sy’n cymryd rhan neu’n bwriadu cymryd rhan mewn trefniadau datrys anghydfodau.
32.Mae isadran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol, pan fyddant yn gwneud trefniadau gwasanaethau eirioli, roi sylw i’r egwyddor bod yn rhaid i’r gwasanaeth eirioli fod yn annibynnol ar unrhyw berson sy’n destun apêl neu y mae a wnelo ag ymchwilio i’r apêl neu ddyfarnu ar yr apêl.
33.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol gydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru ac sy’n ymwneud â threfniadau gwasanaethau eirioli.
34.Mae isadran (5) yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i sicrhau bod plant, rhieni, penaethiaid ysgolion a pherchenogion ysgolion yn eu hardal, a phersonau eraill o’r fath y mae’r Awdurdodau o’r farn eu bod yn briodol, yn ymwybodol bod gwasanaethau eirioli annibynnol ar gael.
35.Mae is-adran (6) yn caniatáu i Awdurdod Addysg Lleol wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer talu person, neu mewn perthynas â pherson, sy’n darparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer plentyn neu gyfaill achos.
36.Mae is-adran (7) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru pan fydd yr Awdurdodau’n gwneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer plant neu gyfeillion achos.
Adran 7 – Gweithdrefn y Tribiwnlys
37.Mae’r adran hon yn diwygio adran 336 o Ddeddf Addysg 1996 sy’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch achosion yn y Tribiwnlys.
38.Mae is-adran (3) yn ychwanegu paragraffau ychwanegol at adran 336(2) i alluogi Gweinidogion Cymru i ohirio achosion o dan amgylchiadau penodol ac i ychwanegu at bartïon i achosion apêl, neu roi partïon yn lle partïon i achosion apêl.
Adran 8 –Gweithdrefn ar gyfer gwneud rheoliadau (diwygio adran 569 o Ddeddf Addysg 1996 a mewnosod adran 569(2A) a (2B) newydd yn y Ddeddf honno)
39.Mae’r adran hon yn diwygio adran 569 o Ddeddf Addysg 1996 sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â rheoliadau.
40.Mae is-adran (2) yn diwygio adran 569(1) o Ddeddf Addysg 1996 i bennu bod yn rhaid arfer drwy offeryn statudol unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau.
41.Mae is-adran (4) yn mewnosod isadrannau (2A) a (2B) newydd. Mae isadran (2A) yn rhagnodi y bydd rheoliadau a wneir o dan adrannau 332ZC, 332AA, 332BA, 332BB a 336 yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol. Mae is-adran (2B) yn fynegbost i effaith paragraffau 33 i 35 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Paragraffau yw’r rhain sy’n ymdrin â gweithdrefnau’r Cynulliad sy’n gymwys i is-ddeddfwriaeth a wneir o dan bwerau sydd yn Neddf Addysg 1996 ac mewn Deddfau eraill ac a drosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan Ddeddf 2006.
Hawliadau Gwahaniaethu ar sail Anabledd
Mae adrannau 9-16 yn mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
Adran 9 – Hawl plentyn i wneud hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd (mewnosod adran 28IA newydd yn Neddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 – Awdurdodaeth a Phwerau’r Tribiwnlys)
42.Mae adran 281A newydd yn rhoi i blant anabl yr hawl i wneud hawliad eu hunain i’r Tribiwnlys, ac yn caniatáu i’r Tribiwnlys ystyried hawliad a wnaed gan blentyn a dyfarnu arno.
43.Mae is-adran (1) o’r adran newydd yn pennu ar ba seiliau y caiff plentyn anabl wneud hawliad i’r Tribiwnlys.
44.Mae is-adran (2) yn darparu nad yw hawl y plentyn i wneud hawliad yn ymestyn i hawliad yn erbyn ysgol a gynhelir gan yr Awdurdod Addysg Lleol, sef hawliad sy’n ymwneud â phenderfyniadau derbyn i’r ysgol neu wahardd yn barhaol o’r ysgol.
45.Mae is-adran (3) yn caniatáu i blentyn wneud hawliad ar yr un pryd â rhiant y plentyn p’un ai ar yr un seiliau ai ar seiliau gwahanol.
46.Mae is-adran (4) yn caniatáu i’r Tribiwnlys wneud gorchymyn mewn perthynas â hawliad a wnaed gan blentyn.
47.Mae is-adran (5) yn caniatáu i’r Tribiwnlys wneud gorchymyn i rwystro gwahaniaethu neu liniaru ei effeithiau, ond nid yw hyn yn cynnwys pŵer i’r Tribiwnlys orchymyn taliad ar ffurf iawndal.
48.Mae is-adran (6) yn darparu bod arfer hawliau a roddir o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau a wnaed gan reoliadau o dan adrannau 28IB a 28J o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995.
Adran 10 – Cyfeillion achos (mewnosod adran 28IB newydd yn Neddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995)
49.Mae is-adran (1) o adran 281B newydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n yn darparu i blentyn anabl gael person i wneud cynrychioliadau ar ran y plentyn er mwyn osgoi neu ddatrys anghydfodau rhwng y plentyn a’r corff sy’n gyfrifol am ysgol, neu er mwyn arfer hawl y plentyn i wneud hawliad i’r Tribiwnlys.
50.Mae is-adran (2) yn pennu bod person sy’n gwneud cynrychioliadau neu’n gwneud hawliad ar ran plentyn i’w alw’n “gyfaill achos”.
51.Mae is-adran (3) yn nodi’r meini prawf y mae’n rhaid i gyfaill achos eu bodloni pan fydd yn gwneud cynrychioliadau neu’n gwneud hawliad ar ran plentyn.
52.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan yr aran hon roi swyddogaethau i’r Tribiwnlys a gosod gweithdrefnau mewn perthynas â chyfeillion achos. Caiff rheoliadau hefyd wneud darpariaeth ynghylch penodi neu ddiswyddo cyfaill achos, pennu amgylchiadau pan gaiff person neu na chaiff person weithredu fel cyfaill achos, pennu amgylchiadau pan fo’n rhaid i blentyn gael cyfaill achos, a phennu gofynion mewn cysylltiad ag ymddygiad cyfaill achos.
53.Mae is-adran (5) yn diffinio “disabled child” (plentyn anabl) at ddibenion y darpariaethau newydd yn y Mesur hwn.
Adran 11 – Cyngor a gwybodaeth (mewnosod adran 28IC newydd – Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995)
54.Mae is-adran (1) o adran 281C newydd yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol yng Nghymru i drefnu bod cyngor a gwybodaeth ar faterion sy’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion yn cael ei roi i unrhyw blentyn anabl yn eu hardal ac i unrhyw gyfaill achos ar gyfer plentyn o’r fath.
55.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru pan fydd yr Awdurdodau’n gwneud trefniadau i ddarparu cyngor a gwybodaeth i blant anabl (neu gyfeillion achos).
56.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth a wnaed mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud â threfniadau rhoi cyngor a gwybodaeth.
57.Mae is-adran (4) yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i sicrhau bod plant anabl, rhieni plant anabl, penaethiaid ysgolion a pherchenogion ysgolion yn eu hardal, a phersonau eraill o’r fath y mae’r Awdurdodau o’r farn eu bod yn briodol, yn ymwybodol bod gwasanaethau cyngor a gwybodaeth ar gael.
Adran 12 – Datrys anghydfodau (mewnosod adran 28ID newydd – Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995)
58.Mae is-adran (1) o adran 281D newydd yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol yng Nghymru i wneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau datrys anghydfodau er mwyn osgoi neu ddatrys anghytundebau rhwng plentyn anabl a’r corff sy’n gyfrifol am ysgol.
59.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer penodi person annibynnol i helpu i osgoi neu ddatrys anghydfodau.
60.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru pan fydd yr Awdurdodau’n gwneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau datrys anghydfodau.
61.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau sy’n ymwneud â gwasanaethau datrys anghydfodau.
62.Mae is-adran (5) yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i sicrhau bod plant anabl, rhieni plant anabl, penaethiaid ysgolion a pherchenogion ysgolion yn eu hardal, a phersonau eraill o’r fath y mae’r Awdurdodau o’r farn eu bod yn briodol, yn ymwybodol bod gwasanaethau datrys anghydfodau ar gael.
63.Mae is-adran (6) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol hysbysu plant anabl, rhieni plant anabl a chyfeillion achos ar gyfer plant anabl yn eu hardal na fydd cymryd rhan mewn trefniadau datrys anghydfodau’n effeithio ar hawl unrhyw berson i wneud hawliad i’r Tribiwnlys.
Adran 13 – Gwasanaethau eirioli annibynnol (mewnosod adran 28IE newydd – Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995)
64.Mae is-adran (1) o adran 281E newydd yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i drefnu bod gwasanaeth eirioli annibynnol ar gael yn eu hardal, a bod plentyn anabl neu gyfaill achos ar gyfer plentyn anabl yn cael ei gyfeirio at y gwasanaeth pe byddai’n gofyn am hynny.
65.Mae is-adran (2) yn diffinio “independent advocacy services” (gwasanaethau eirioli annibynnol) yn wasanaethau a fwriedir ar gyfer darparu cyngor a chymorth i blentyn anabl sy’n ystyried p’un ai i wneud hawliad i’r Tribiwnlys ai peidio, sydd wedi gwneud neu sy’n bwriadu gwneud hawliad, neu sy’n cymryd rhan neu’n bwriadu cymryd rhan mewn trefniadau datrys anghydfodau.
66.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol, pan fyddant yn gwneud trefniadau gwasanaethau eirioli, roi sylw i’r egwyddor bod yn rhaid i’r gwasanaeth eirioli fod yn annibynnol ar unrhyw berson sy’n destun hawliad neu y mae a wnelo ag ymchwilio i’r hawliad neu ddyfarnu ar yr hawliad.
67.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol gydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru ac sy’n ymwneud â threfniadau gwasanaethau eirioli.
68.Mae is-adran (5) yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i sicrhau bod plant anabl, rhieni, penaethiaid ysgolion a pherchenogion ysgolion yn eu hardal, a phersonau eraill o’r fath y mae’r Awdurdodau o’r farn eu bod yn briodol, yn ymwybodol bod gwasanaethau eirioli annibynnol ar gael.
69.Mae is-adran (6) yn caniatáu i Awdurdod Addysg Lleol wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer talu person, neu mewn perthynas â pherson, sy’n darparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer plentyn anabl neu gyfaill achos.
70.Mae is-adran (7) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru pan fydd yr Awdurdodau’n gwneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer plant neu gyfeillion achos.
Adran 14 – Gweithdrefn y Tribiwnlys
71.Mae’r adran hon yn diwygio adran 28J o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 drwy ddileu pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau sy’n llywodraethu achosion yn y Tribiwnlys ynghylch hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd, a thrwy roi’r pwerau hynny’n hytrach i Weinidogion Cymru.
72.Mae is-adran (3) yn ychwanegu paragraff ychwanegol at adran 28J(2) i alluogi Gweinidogion Cymru i ychwanegu at bartïon i achosion yn y Tribiwnlys, neu roi partïon yn lle partïon i achosion yn y Tribiwnlys.
Adran 15 – Rôl Gweinidogion Cymru
73.Mae’r adran hon yn diwygio rolau’r Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru o dan adran 28M o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995.
74.Mae is-adran (2) yn mewnosod is-adran (1A) newydd yn diwygio adran 28M(1) drwy fewnosod is-adran newydd (1A). Mae’r ddarpariaeth hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau i Awdurdod Addysg Lleol pan fydd yr Awdurdod Addysg Lleol yn gweithredu neu’n bwriadu gweithredu’n afresymol wrth gyflawni ei ddyletswyddau gwahaniaethu ar sail anabledd a osodwyd gan y Mesur hwn, neu pan fydd wedi methu â chyflawni’r dyletswyddau hynny.
75.Mae adran (3) yn diwygio adran 28M(4) fel y gall Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i Awdurdod Addysg Lleol o dan yr is-adran (1A) newydd hyd yn oed os yw perfformiad dyletswydd yr Awdurdod Addysg Lleol yn amodol ar farn yr Awdurdod Addysg Lleol.
76.Mae is-adran (5) yn mewnosod is-adran (6A) a (6B) newydd. Mae’r darpariaethau hyn, pan ddarllenir hwy gydag is-adran (4), yn dileu swyddogaeth rhoi cyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Gwladol o ran methiant i gydymffurfio â gorchymyn y Tribiwnlys, ac yn rhoi’r swyddogaeth honno i Weinidogion Cymru.
77.Mae is-adran (6) yn diwygio adran 28M(7) fel y gall y cyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan yr is-adran (1A) newydd gael eu hamrywio neu’u diddymu a’u gorfodi ar gais Gweinidogion Cymru drwy orchymyn llys.
Adran 16 – Gweithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau
78.Mae’r adran hon yn diwygio adran 67 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 drwy fewnosod is-adran (5B) newydd sy’n darparu bod rheoliadau a wneir o dan adrannau 28IB, 28IC, 28ID, 28IE neu 28J i fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol.
Adran 17 – Treialu hawliau plentyn i apelio neu i wneud hawliad
79.Mae is-adran (1) yn gwneud darpariaeth i ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i dreialu, am gyfnod o hyd at 40 mis, hawliau a roddir i blentyn o dan y Mesur hwn.
80.Mae is-adran (2) yn pennu y caiff rheoliadau a wnaed o dan is-adran (1) wneud darpariaeth:
mai dim ond i blant y mae awdurdodau addysg lleol penodedig yn gyfrifol amdanynt y mae hawliau a roddir i blentyn gan y Mesur hwn mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig i fod yn gymwys;
mai dim ond i awdurdodau addysg lleol penodedig y mae dyletswyddau a roddir ar awdurdodau addysg lleol gan y Mesur hwn mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig i fod yn gymwys;
mai dim ond i gorff sy’n gyfrifol am ysgol mewn ardaloedd penodedig y mae hawliau a roddir i berson gan y Mesur hwn mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail anabledd i fod yn gymwys; ac
mai dim ond i awdurdodau addysg lleol penodedig y mae dyletswyddau a roddir ar awdurdod addysg lleol gan y Mesur hwn mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail anabledd i fod yn gymwys.
81.Mae is-adran (2) hefyd yn caniatáu i reoliadau wneud darpariaeth i adroddiadau neu wybodaeth arall ar weithredu’r treialu gael eu darparu neu ei darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru.
82.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi a gosod adroddiad ar sut y gweithredwyd y cynllun treialu ac ar ba mor effeithiol oedd y cynllun treialu o ran hyrwyddo llesiant plant.
83.Mae is-adran (4) yn caniatáu i Weinidogion Cymru osod adroddiad o dan is-adran (3) cyn diwedd y cyfnod treialu a nodir yn y rheoliadau o dan is-adran (1) ar yr amod fod 12 mis o’r cyfnod treialu wedi mynd heibio.
84.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad o dan is-adran (3) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn 30 mis i ddyfodiad y rheoliadau o dan is-adran (1) i rym.
Adran 18 - Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch apelau a hawliadau gan blentyn
85.Mae’r adran hon yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth drwy orchymyn ynghylch y materion sy’n cael eu treialu. Mae hyn yn cynnwys pŵer i ychwanegu, dileu neu addasu hawliau, i ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996 a Rhan 4 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, ac i wneud diwygiadau canlyniadol a diddymiadau i ddarpariaethau yn y Deddfau hynny. Diben y pŵer yw i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth bellach ynghylch hawliau plant i wneud apelau a hawliadau yng ngoleuni’r wybodaeth a gesglir yn ystod y cyfnod treialu. Bydd y pŵer hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru addasu’r hawliau er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw broblemau nad ydynt yn dod i’r amlwg ond ar ôl i’r Mesur ddod yn weithredol yn gyffredinol ledled Cymru, yn ddarostyngedig i derfyn amser o 24 o fisoedd ar gyfer defnyddio’r pŵer gwneud gorchmynion sy’n cychwyn ar ddiwedd y cyfnod treialu.
86.Mae is-adran (3) yn datgan na all y pŵer i wneud gorchymyn o dan yr adran hon gael ei arfer cyn i’r adroddiad ar y treialu, y mae adran 17(3) yn ei wneud yn ofynnol, gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu ar ôl 24 mis o ddiwrnod olaf y cyfnod treialu a nodir yn y rheoliadau o dan is-adran 17(1).
Adran 19 – Dehongli adrannau 17 ac 18
87.Mae’r adran hon yn diffinio’r termau a ddefnyddir yn adrannau 17 ac 18.
Adran 20 – Pwerau ar ddiddymu ac ail-ddeddfu’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
88.Bydd yr adran hon yn gymwys os bydd Rhan 4 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yn cael ei diddymu neu’i hailddeddfu gydag addasiad neu hebddo. Mae’r adran yn rhoi’r pŵer I Weinidogion Cymru wneud gorchymyn i ddiwygio deddfwriaeth gyfredol neu ddeddfwriaeth yn y dyfodol sy’n diddymu ac yn ail-ddeddfu’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 ac yn darparu y bydd modd gwneud gorchymyn cyn y bydd y ddeddfwriaeth sy’n diddymu ac yn ail-ddeddfu’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yn cael ei chychwyn.
89.Mae is-adran (3) yn darparu y caiff gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru wneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r darpariaethau gwahaniaethu ar sail anabledd yn y Mesur. Bydd hyn yn galluogi I’r darpariaethau a wneir yn adrannau 9 i 16 o’r Mesur gael eu cadw mewn deddfwriaeth gydraddoldeb newydd.