RHAN 1APELAU A HAWLIADAU ADDYSG GAN BLANT

Diddymu ac ailddeddfu Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yn y dyfodol

20Pwerau mewn perthynas â diddymu ac ailddeddfu Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995

1

Mae'r adran hon yn gymwys os diddymir ac ail-ddeddfir, gan Ddeddf Seneddol, Ran 4 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (wedi neu heb ei haddasu).

2

Yn is-adran (1) mae'r ymadrodd “diddymir ac ail-ddeddfir” yn cynnwys diddymu ac ailddeddfu cyn cychwyn y diddymiad ac ailddeddfiad.

3

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn—

a

gwneud darpariaeth sy'n cyfateb i ddarpariaeth a wneir gan adrannau 9 i 16 o'r Mesur hwn, a

b

gwneud y cyfryw ddarpariaeth arall ag y byddant o'r farn ei bod yn briodol iddynt ei gwneud yn sgil unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan baragraff (a).

4

Mae'r pŵer a roddir gan is-adran (3) yn cynnwys pŵer i ddiwygio neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y caiff ei basio neu ei wneud), gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn.

5

Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad a geir mewn is-ddeddfwriaeth, o fewn ystyr Deddf Ddehongli 1978 (p.30).