Search Legislation

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Cyfleoedd chwarae

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/07/2014

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/07/2013.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, Croes Bennawd: Cyfleoedd chwarae. Help about Changes to Legislation

Cyfleoedd chwaraeLL+C

11Dyletswyddau awdurdod lleol ynghylch cyfleoedd chwarae i blantLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer plant yn ei ardal yn unol â rheoliadau.

(2)Caiff rheoliadau gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y materion sydd i'w hystyried wrth asesu digonolrwydd;

(b)y dyddiad erbyn pryd y mae asesiad cyntaf i'w gyflawni;

(c)amlder asesiadau;

(d)adolygu asesiadau;

(e)cyhoeddi asesiadau.

(3)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant yn ei ardal, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gan roi sylw i'w asesiad o dan is-adran (1).

(4)Rhaid i awdurdod lleol—

(a)cyhoeddi gwybodaeth ynghylch cyfleoedd chwarae i blant yn ardal yr awdurdod, a

(b)diweddaru'r wybodaeth a gyhoeddir.

(5)Wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw (ymysg pethau eraill)—

(a)i anghenion plant sy'n bobl anabl (o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (p. 50);

(b)i anghenion plant o wahanol oedrannau.

(6)Yn yr adran hon—

  • mae “chwarae” yn cynnwys unrhyw weithgaredd hamdden;

  • ystyr “digonol”, mewn perthynas â chyfleoedd chwarae, yw digonol o ran nifer ac ansawdd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 11 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 11(1)(2)(5)(6) mewn grym ar 1.11.2012 gan O.S. 2012/2453, ergl. 2

Back to top

Options/Help