Search Legislation

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Canllawiau a chyfarwyddiadau

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, Croes Bennawd: Canllawiau a chyfarwyddiadau. Help about Changes to Legislation

Canllawiau a chyfarwyddiadauLL+C

17CanllawiauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdod Cymreig arall o bryd i'w gilydd ynghylch—

(a)arfer swyddogaethau o dan adrannau 1 i 10, neu

(b)unrhyw gam i hybu'r nodau eang i gyfrannu at ddileu tlodi plant.

(2)Rhaid i awdurdod Cymreig roi sylw i'r canllawiau wrth arfer ei swyddogaethau.

(3)Wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 11 a 12, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 17 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 17 mewn grym ar 10.1.2011 gan O.S. 2010/2994, ergl. 2(e)

18CyfarwyddiadauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod unrhyw awdurdod Cymreig arall yn methu â chydymffurfio, neu'n debygol o fethu â chydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd o dan adrannau 2, 7, 10, 11 neu 12.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod Cymreig i gymryd unrhyw gam y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn angenrheidiol neu'n hwylus i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y ddyletswydd berthnasol.

(3)O ran cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)mae'n orfodadwy drwy orchymyn gorfodi ar gais Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 18 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I4A. 18 mewn grym ar 10.1.2011 gan O.S. 2010/2994, ergl. 2(f)

Back to top

Options/Help