RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT

Anghymwyso rhag cofrestru

38Anghymwyso rhag cofrestru

(1)Yn yr adran hon ystyr “cofrestru” yw cofrestru o dan y Rhan hon.

(2)Caiff rheoliadau ddarparu fod person i'w anghymwyso rhag cofrestru.

(3)Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu bod person i'w anghymwyso rhag cofrestru—

(a)os yw'r person wedi ei wahardd rhag gweithgaredd a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hawdd eu Niweidio 2006 (p. 47));

(b)os gwnaed gorchymyn o fath a ragnodwyd ynglŷn â'r person;

(c)os gwnaed gorchymyn o fath a ragnodwyd ar unrhyw adeg ynglŷn â phlentyn a fu dan ofal y person;

(d)os gosodwyd gofyniad o fath a ragnodwyd ar unrhyw adeg ynglŷn â phlentyn o'r fath, o dan neu yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad;

(e)os gwrthodwyd cofrestru'r person ar unrhyw adeg o dan y Rhan hon o'r Mesur hwn, Rhan 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006 (p. 21) neu o dan Ran 10 neu Ran 10A o Ddeddf Plant 1989 (p. 41) neu unrhyw ddeddfiad a ragnodwyd, neu os diddymwyd unrhyw gofrestriad o'r fath ar ei gyfer;

(f)os cafodd y person ei gollfarnu o dramgwydd o fath a ragnodwyd neu os cafodd ryddhad diamod neu ryddhad amodol am y cyfryw dramgwydd;

(g)os cafodd y person rybudd ynglŷn â thramgwydd o fath a ragnodwyd;

(h)os cafodd y person ar unrhyw adeg ei anghymwyso rhag maethu plentyn yn breifat (o fewn ystyr Deddf Plant 1989 (p. 41));

(i)os gosodwyd gwaharddiad ar y person ar unrhyw adeg o dan adran 69 o Ddeddf Plant 1989 (p. 41), adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (yr Alban) 1984 (p. 56) neu unrhyw ddeddfiad a ragnodwyd;

(j)os cafodd hawliau a phwerau person ynglŷn â phlentyn ar unrhyw adeg eu breinio mewn awdurdod a ragnodwyd o dan ddeddfiad a ragnodwyd.

(4)Caiff rheoliadau ddarparu i berson gael ei anghymwyso rhag cofrestru—

(a)os yw'r person yn byw ar yr un aelwyd â pherson arall sydd wedi'i anghymwyso rhag cofrestru, neu

(b)os yw person yn byw ar aelwyd y mae person arall sydd wedi'i anghymwyso yn cael ei gyflogi yno.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) neu (4) ddarparu nad yw person i'w anghymwyso rhag cofrestru (ac yn benodol cânt ddarparu nad yw person i'w anghymwyso rhag cofrestru at ddibenion adran 39) o achos unrhyw ffaith a fyddai fel arall yn peri bod y person yn cael ei anghymwyso—

(a)os yw'r person wedi datgelu'r ffaith i Weinidogion Cymru, a

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi cydsynio'n ysgrifenedig nad yw'r person wedi'i anghymwyso rhag cofrestru ac nad ydynt wedi tynnu eu cydsyniad yn ôl.

(6)Yn yr adran hon—

  • mae “rhybudd” yn cynnwys cerydd neu rybudd yn yr ystyr sydd i “caution” yn adran 65 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37);

  • ystyr “deddfiad” yw unrhyw ddeddfiad sy'n cael effaith ar unrhyw adeg yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

(7)Mae collfarn y gwnaed gorchymyn prawf ynglŷn â hi cyn 1 Hydref 1992 (na fyddai fel arall yn cael ei thrin fel collfarn) i'w thrin fel collfarn at ddibenion yr adran hon.

39Canlyniadau anghymwyso

(1)Rhaid i berson sydd wedi ei anghymwyso rhag cofrestru o dan y Rhan hon gan reoliadau o dan adran 38 beidio â gwneud y canlynol—

(a)gweithredu fel gwarchodwr plant yng Nghymru,

(b)darparu gofal dydd yng Nghymru neu ymwneud yn uniongyrchol â rheolaeth unrhyw ddarpariaeth gofal dydd yng Nghymru.

(2)Rhaid i berson beidio â chyflogi, mewn cysylltiad â darparu gofal dydd neu wasanaeth gwarchod plant yng Nghymru, berson sydd wedi'i anghymwyso rhag cofrestru o dan y Rhan hon gan reoliadau o dan adran 38.

(3)Mae person sy'n mynd yn groes i is-adran (1) neu (2) yn cyflawni tramgwydd.

(4)Nid yw person sy'n mynd yn groes i is-adran (1) yn euog o dramgwydd o dan is-adran (3)—

(a)os yw'r person wedi'i anghymwyso rhag cofrestru yn unig yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 38(4), a

(b)os yw'r person yn profi na wyddai, ac nad oedd ganddo sail resymol dros gredu, ei fod yn byw—

(i)ar yr un aelwyd â pherson a oedd wedi'i anghymwyso rhag cofrestru, neu

(ii)ar aelwyd yr oedd y cyfryw berson yn cael ei gyflogi yno.

(5)Nid yw person sy'n mynd yn groes i is-adran (2) yn euog o dramgwydd o dan is-adran (3) os yw'r person yn profi na wyddai, ac nad oedd ganddo sail resymol dros gredu, bod y person a gyflogwyd wedi'i anghymwyso rhag cofrestru.

(6)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (3) yn atebol ar gollfarn ddiannod i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na 51 o wythnosau, neu i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu i'r ddau.

(7)O ran tramgwydd a gyflawnwyd cyn cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) (newid mewn cosbau ar gyfer tramgwyddau diannod), mae'r cyfeiriad at 51 o wythnosau yn is-adran (7) i'w ddarllen fel cyfeiriad at 6 mis.