RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT

Arolygu

I1I540Arolygu

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu—

a

ar gyfer arolygu gwarchod plant a ddarperir yng Nghymru gan bersonau cofrestredig a gofal dydd a ddarperir gan bersonau cofrestredig mewn mangreoedd yng Nghymru;

b

ar gyfer cyhoeddi adroddiadau o'r arolygiadau mewn modd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

2

Caiff y rheoliadau ddarparu bod yr arolygiadau yn cael eu trefnu—

a

gan Weinidogion Cymru, neu

b

gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, neu gan unrhyw berson arall, o dan drefniadau a wneir gyda Gweinidogion Cymru.

3

Caiff y rheoliadau ddarparu at ddibenion cyfraith difenwi bod unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan y rheoliadau yn freintiedig oni ddangosir bod y cyhoeddiad wedi'i wneud yn faleisus.

4

Nid yw rheoliadau a wneir o dan is-adran (3) yn cyfyngu ar unrhyw fraint sy'n bodoli ar wahân i ddarpariaeth yn y cyfryw reoliadau.

I2I741Pwerau mynediad

1

Caiff unrhyw berson a awdurdodwyd at ddibenion yr is-adran hon gan Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn i unrhyw fangre yng Nghymru lle y darperir gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd ar unrhyw adeg.

2

Caiff unrhyw berson a awdurdodwyd at ddibenion yr is-adran hon gan Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn i unrhyw fangre yng Nghymru os oes gan y person achos rhesymol dros gredu bod plentyn yn derbyn gofal yn unrhyw fangre yn groes i'r Rhan hon.

3

Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-adran (1) neu (2)—

a

ar gyfer achlysur neu gyfnod penodol;

b

yn ddarostyngedig i amodau.

4

Rhaid i berson sy'n arfer unrhyw bŵer a roddir gan yr adran hon neu adran 42, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos awdurdod y person hwnnw i wneud hynny.

I3I842Pwerau arolygu

1

Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 41 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 41(3)(b))—

a

arolygu'r fangre;

b

arolygu, a chymryd copïau o'r canlynol—

i

unrhyw gofnodion a gedwir gan y person sy'n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd, a

ii

unrhyw ddogfennau eraill sy'n cynnwys gwybodaeth ynghylch darparu'r gwasanaeth;

c

ymafael yn unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall neu beth arall a geir yno a'u symud oddi yno y mae gan y person a awdurdodwyd sail resymol dros gredu y gall fod yn dystiolaeth o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw amod neu ofyniad a osodwyd gan neu o dan y Rhan hon;

d

cymryd mesuriadau neu dynnu lluniau neu wneud recordiadau;

e

arolygu unrhyw blant sy'n derbyn gofal yno, a'r trefniadau a wnaed er eu lles;

f

cyfweld yn breifat â'r person sy'n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd;

g

cyfweld yn breifat ag unrhyw berson sy'n gofalu am blant, neu'n byw neu'n gweithio, yn y fangre sy'n cydsynio i gael ei gyfweld.

2

Mae'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—

a

pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dal dogfennau neu gofnodion a gedwir yn y fangre neu sy'n atebol amdanynt i'w dangos, a

b

o ran cofnodion a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur, pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu dangos ar ffurf sy'n eu gwneud yn ddarllenadwy ac y gellir eu cymryd oddi yno.

3

Nid yw'r pŵer ym mharagraffau (b) ac (c) yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer—

a

i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu

b

i gymryd copïau o ddogfennau neu gofnodion o'r fath neu i ymafael ynddynt a'u symud oddi yno.

4

Mewn cysylltiad ag arolygu unrhyw ddogfennau o'r fath, caiff person a awdurdodwyd at ddibenion adran 41 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 41(3)(b))—

a

cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunyddiau cysylltiedig ac arolygu a gwirio eu gweithrediad y mae'r person hwnnw'n ystyried sy'n cael eu defnyddio neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau, a

b

ei gwneud yn ofynnol bod person sy'n dod o fewn is-adran (5) yn rhoi iddo'r cyfryw gymorth rhesymol ag y bo angen amdano at y diben hwnnw.

5

Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon—

a

os yw'n berson y mae'r cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio ganddo neu wedi cael ei ddefnyddio ganddo neu ar ei ran, neu

b

os yw'n berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd neu fel arall yn ymwneud â'u gweithredu.

6

Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 41 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 41(3)(b)) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn rhoi iddo'r cyfryw gyfleusterau a chymorth ynglyn â materion o fewn rheolaeth y person ag sy'n angenrheidiol i'w alluogi i arfer pwerau o dan adran 41 neu o dan yr adran hon.

7

Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol—

a

yn rhwystro person sy'n arfer unrhyw bŵer o dan adran 41 neu o dan yr adran hon, neu

b

yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr adran hon,

yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

I4I643Pŵer cwnstabl i gynorthwyo wrth arfer pwerau mynediad

1

Caiff person a awdurdodwyd i arfer pŵer mynediad o dan adran 41 wneud cais i lys am warant o dan yr adran hon.

2

Os yw'n ymddangos i'r llys bod y person awdurdodedig—

a

wedi ceisio arfer pŵer a roddwyd i'r person hwnnw o dan adran 41 neu 42 ond ei fod wedi cael ei rwystro rhag gwneud hynny, neu

b

yn debygol o gael ei rwystro rhag arfer unrhyw bŵer o'r fath,

caiff y llys ddyroddi gwarant sy'n awdurdodi unrhyw gwnstabl i gynorthwyo'r person awdurdodedig i arfer y pŵer, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

3

Rhaid i warant a ddyroddwyd o dan yr adran hon gael ei chyfeirio at gwnstabl a chael ei gweithredu ganddo.

F14

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

5

Yn yr adran hon, ystyr “llys” yw'r Uchel Lys, llys sirol neu lys ynadon; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a ellid ei gwneud (yn rhinwedd is-adran (4)) gan neu o dan Atodlen 11 i Ddeddf Plant 1989.