RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT

Cofrestru gofal dydd i blant

I1I322Cofrestr o ddarparwyr gofal dydd i blant

Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr (“cofrestr gofal dydd i blant”) o bob person sydd wedi'i gofrestru i ddarparu gofal dydd i blant o dan y Rhan hon ac o'r mangreoedd y maent wedi eu hawdurdodi i'w ddarparu ynddynt o dan y Rhan hon.

I2I423Dyletswydd darparwyr gofal dydd i gofrestru

1

Rhaid i berson beidio â darparu gofal dydd i blant mewn unrhyw fangre yng Nghymru oni bai bod y person hwnnw wedi'i gofrestru i ddarparu gofal dydd i blant yn y fangre honno gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon.

2

Mae person sy'n mynd yn groes i is-adran (1) heb esgus rhesymol yn cyflawni tramgwydd.

3

Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (2) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.