xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddiddymu cofrestriad person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon os yw'n ymddangos iddynt bod y person bellach wedi'i anghymwyso rhag cofrestru o dan adran 38.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiddymu cofrestriad person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon os yw'n ymddangos iddynt bod unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol yn gymwys—
(a)bod y gofynion i gofrestru sy'n gymwys o ran cofrestriad y person o dan adran 25 neu 27 wedi peidio â chael eu bodloni neu y byddant yn peidio â chael eu bodloni;
(b)bod y person wedi methu â chydymffurfio ag amod a osodwyd ar gofrestriad y person hwnnw o dan y Rhan hon;
(c)bod y person wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd ar y person hwnnw gan reoliadau o dan y Rhan hon;
(d)bod y person wedi methu â thalu'r ffi a ragnodwyd.
(3)Os gosodwyd gofyniad i wneud unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau i unrhyw wasanaethau, cyfarpar neu fangre ar berson a gofrestrwyd o dan y Rhan hon, ni cheir diddymu cofrestriad y person hwnnw ar sail unrhyw ddiffyg neu annigonolrwydd yn y gwasanaethau, cyfarpar neu fangre—
(a)os nad yw'r amser a osodwyd i gydymffurfio â'r gofynion wedi dod i ben, a
(b)os dangosir bod y diffyg neu'r annigonolrwydd oherwydd na wnaed y newidiadau neu'r ychwanegiadau.
(4)Rhaid i ddiddymiad o dan yr adran hon fod yn ysgrifenedig.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi amgylchiadau eraill pan geir diddymu cofrestriad person cofrestredig o dan y Rhan hon.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 31(2)(b) eithrio (1.4.2016) gan Gorchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016 (O.S. 2016/98), erglau. 1(2), 12(2)(3)(b) (ynghyd ag ergl. 11)
C2A. 31(2)(b) eithrio (1.4.2016) gan Gorchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016 (O.S. 2016/98), erglau. 1(2), 8(2)(3)(b) (ynghyd ag ergl. 6)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 31 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
(1)Caiff rheoliadau ddarparu bod cofrestriad unrhyw berson o dan y Rhan hon yn cael ei atal.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch—
(a)cyfnod yr ataliad;
(b)yr amgylchiadau y ceir atal cofrestriad ynddynt;
(c)atal cofrestriad ar gais y person cofrestredig.
(3)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth yn rhoi i'r person cofrestredig hawl i apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn ataliad.
(4)Nid yw'r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas ag ataliad ar gais y person cofrestredig.
(5)Rhaid i berson a gofrestrwyd o dan y Rhan hon i warchod plant gan Weinidogion Cymru beidio â gweithredu fel gwarchodwr plant yng Nghymru ar adeg pan fydd y cofrestriad hwnnw wedi'i atal.
(6)Rhaid i berson a gofrestrwyd o dan y Rhan hon i ddarparu gofal dydd yn unrhyw fangre gan Weinidogion Cymru beidio â darparu gofal dydd yn y fangre honno ar unrhyw adeg pan fydd y cofrestriad hwnnw wedi'i atal.
(7)Os yw person yn mynd yn groes i is-adran (5) neu (6) heb esgus rhesymol, mae'r person hwnnw'n euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 32 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
(1)Caiff person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon hysbysu Gweinidogion Cymru i dynnu'r person hwnnw oddi ar y gofrestr gwarchod plant neu (yn ôl y digwydd) y gofrestr gofal dydd i blant.
(2)Os bydd person yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru dynnu'r person hwnnw oddi ar y gofrestr gwarchod plant neu (yn ôl y digwydd) y gofrestr gofal dydd i blant.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gweithredu o dan is-adran (2)—
(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi anfon hysbysiad at y person (o dan adran 36) o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad y person, a
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn dal i fwriadu cymryd y cam hwnnw.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gweithredu o dan is-adran (2)—
(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi anfon hysbysiad at y person (o dan adran 36) o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad y person hwnnw, a
(b)os nad yw'r amser y gellir dwyn apêl o dan adran 37 wedi dod i ben neu, os gwnaed y cyfryw apêl, na chafodd ei phenderfynu.