Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd wedi'i gofrestru o dan y Rhan hon roi iddynt unrhyw wybodaeth sy'n gysylltiedig â gweithgareddau'r person fel gwarchodwr plant neu wrth ddarparu gofal dydd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ei chael at ddibenion eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 44 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybodaeth a ragnodwyd i'r awdurdod lleol perthnasol, os ydynt yn cymryd unrhyw un neu unrhyw rai o'r camau canlynol o dan y Rhan hon—
(a)caniatáu cais cofrestru i berson;
(b)rhoi hysbysiad o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad person;
(c)diddymu cofrestriad person;
(d)atal cofrestriad person;
(e)tynnu person oddi ar y gofrestr ar gais y person hwnnw.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd roi gwybodaeth a ragnodwyd i'r awdurdod lleol perthnasol os gwneir gorchymyn o dan adran 34(2).
(3)Yr wybodaeth y gellir ei rhagnodi at ddibenion yr adran hon yw gwybodaeth a fyddai'n cynorthwyo'r awdurdod lleol wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 27 o Ddeddf Gofal Plant 2006 (p. 21).
(4)Yn yr adran hon, ystyr “yr awdurdod lleol perthnasol” yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r person yn gweithredu fel gwarchodwr plant ynddi (neu wedi gweithredu felly) neu'n darparu (neu wedi darparu) gofal dydd y mae'r person (neu yr oedd y person) wedi ei gofrestru ynglŷn ag ef.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru roi gwybodaeth i berson sy'n arfer swyddogaethau statudol (at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r swyddogaethau hynny) ynghylch a yw person wedi'i gofrestru o dan y Rhan hon ai peidio.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 45: rhoddwyd pŵer i addasu (dd.) (25.3.2020) gan Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(1), Atod. 17 para. 7 (ynghyd ag aau. 88-90)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 45 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)