RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT
Y broses gofrestru a gofynion cofrestru
24Ceisiadau i gofrestru: gwarchod plant
1
Caiff person sy'n bwriadu gweithredu fel gwarchodwr plant wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestru fel gwarchodwr plant.
2
Rhaid i gais—
a
rhoi unrhyw wybodaeth a ragnodwyd am faterion a ragnodwyd,
b
rhoi unrhyw wybodaeth arall y gall Gweinidogion Cymru yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ei rhoi, ac
c
cynnwys gydag ef unrhyw ffi a ragnodwyd.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais—
a
os na chafodd y ceisydd ei anghymwyso rhag cofrestru o dan adran 38, a
b
os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod yr holl ofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant wedi eu bodloni a'u bod yn debygol o barhau i fod wedi eu bodloni.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod unrhyw gais o dan is-adran (1) nad yw is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu.
25Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant
Caiff y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant gynnwys gofynion sy'n ymwneud â'r canlynol—
a
y ceisydd;
b
y fangre y darperir y gwasanaeth gwarchod plant ynddi;
c
y trefniadau ar gyfer gwarchod plant yn y fangre honno;
d
unrhyw berson a all fod yn gofalu am blant yn y fangre honno;
e
unrhyw berson a all fod yn y fangre honno.
26Ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blant
1
Caiff person sy'n bwriadu darparu gofal dydd i blant mewn mangre benodol wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestru fel darparydd gofal dydd yn y fangre honno.
2
Rhaid i gais—
a
rhoi unrhyw wybodaeth a ragnodwyd am faterion a ragnodwyd,
b
rhoi unrhyw wybodaeth arall y gall Gweinidogion Cymru yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ei rhoi, ac
c
cynnwys gydag ef unrhyw ffi a ragnodwyd.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais—
a
os na chafodd y ceisydd ei anghymwyso rhag cofrestru o dan adran 38, a
b
os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod yr holl ofynion rhagnodedig i gofrestru darparwyr gofal dydd wedi eu bodloni a'u bod yn debygol o barhau i fod wedi eu bodloni.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod unrhyw gais o dan is-adran (1) nad yw is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu.
27Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru darparwyr gofal dydd i blant
Caiff y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel darparwyr gofal dydd i blant gynnwys gofynion sy'n ymwneud â'r canlynol—
a
y ceisydd;
b
y fangre y darperir y gofal dydd ynddi;
c
y trefniadau ar gyfer gofal dydd yn y fangre honno;
d
unrhyw berson a all fod yn gofalu am blant yn y fangre honno;
e
unrhyw berson arall a all fod yn y fangre honno.
28Cofnodi ar y gofrestr a thystysgrifau
1
Os caiff cais o dan adran 24(1) ei ganiatáu, rhaid i Weinidogion Cymru—
a
cofrestru'r ceisydd yn y gofrestr gwarchodwyr plant fel gwarchodwr plant, a
b
rhoi tystysgrif gofrestru i'r ceisydd yn datgan bod y ceisydd wedi'i gofrestru.
2
Os caiff cais o dan adran 26(1) ei ganiatáu, rhaid i Weinidogion Cymru—
a
cofrestru'r ceisydd yn ddarparydd gofal dydd ynglŷn â'r fangre o dan sylw, a
b
rhoi tystysgrif gofrestru i'r ceisydd yn datgan fod y ceisydd wedi'i gofrestru.
3
Rhaid i dystysgrif gofrestru a roddir i geisydd o dan is-adran (1) neu (2) gynnwys gwybodaeth a ragnodwyd ynghylch materion a ragnodwyd.
4
Os oes newid yn yr amgylchiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol diwygio tystysgrif gofrestru, rhaid i Weinidogion Cymru roi i'r person cofrestredig dystysgrif ddiwygiedig.
5
Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod tystysgrif gofrestru wedi cael ei cholli neu ei difa, rhaid i Weinidogion Cymru roi copi i'r person cofrestredig, pan fydd y person cofrestredig yn talu'r ffi a ragnodwyd.
29Amodau wrth gofrestru
1
Caiff Gweinidogion Cymru osod y cyfryw amodau ag y gwelant yn dda eu gwneud wrth gofrestru unrhyw berson o dan y Rhan hon sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant neu berson sy'n darparu gofal dydd i blant.
2
Caniateir i'r pŵer hwn gael ei arfer ar unrhyw adeg pan fydd Gweinidogion Cymru yn cofrestru person o dan adran 24 neu adran 26 neu ar unrhyw adeg ar ôl hynny.
3
Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd o dan yr adran hon.
4
Mae person sydd wedi'i gofrestru o dan y Rhan hon yn cyflawni tramgwydd os bydd y person hwnnw, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau a osodir o dan yr adran hon.
5
Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (4) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
30Rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddau
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddau personau cofrestredig sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant, neu'n darparu gofal dydd, mewn mangre yng Nghymru.
2
Caiff y rheoliadau o dan yr adran hon ymdrin â'r materion canlynol (ymhlith eraill)—
a
lles a datblygiad y plant o dan sylw;
b
addasrwydd i ofalu am y plant o dan sylw, neu fod mewn cyswllt rheolaidd â hwy;
c
cymwysterau a hyfforddiant;
d
mwyafswm nifer y plant y caniateir iddynt dderbyn gofal a nifer y personau sy'n ofynnol i gynorthwyo i ofalu amdanynt;
e
cynnal a chadw, diogelwch ac addasrwydd y fangre a'r cyfarpar;
f
y gweithdrefnau i drafod cwynion;
g
goruchwylio staff;
h
cadw cofnodion;
i
darparu gwybodaeth.
3
Os yw'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson (heblaw Gweinidogion Cymru) roi sylw i neu fodloni ffactorau, safonau neu faterion eraill a ragnodwyd gan y rheoliadau neu y cyfeirir atynt yn y rheoliadau, cânt hefyd ddarparu bod unrhyw honiad bod person wedi methu â gwneud hynny yn cael ei gymryd i ystyriaeth—
a
gan Weinidogion Cymru wrth iddynt arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon, neu
b
mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Rhan hon.
4
Caiff rheoliadau ddarparu—
a
bod person cofrestredig sydd heb esgus rhesymol yn mynd yn groes i unrhyw ofyniad yn y rheoliadau, neu fel arall yn methu â chydymffurfio ag ef, yn euog o dramgwydd; a
b
bod person sy'n euog o'r tramgwydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.