RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT

Y prif dermau

19Ystyr “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant”

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

(2)Mae person yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'r person yn gofalu am blentyn neu blant o dan wyth oed mewn mangre ddomestig er mwyn gwobr; ac mae “gwarchod plant” i'w ddehongli yn unol â hynny.

(3)Mae person yn darparu gofal dydd i blant os yw'r person yn darparu gofal ar unrhyw adeg i blant o dan wyth oed mewn mangre heblaw mangre ddomestig; ac mae “gofal dydd i blant” a “gofal dydd” i'w dehongli yn unol â hynny.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn—

(a)diwygio is-adran (2) neu (3) i amnewid oedran gwahanol;

(b)darparu, o dan yr amgylchiadau a bennir yn y gorchymyn, nad yw person yn gweithredu fel gofalydd plant at ddibenion y Rhan hon;

(c)darparu, o dan yr amgylchiadau a bennir yn y gorchymyn, nad yw person yn darparu gofal dydd at ddibenion y Rhan hon.

(5)Caiff yr amgylchiadau a bennir mewn gorchymyn ymwneud ag un neu fwy o'r materion canlynol (ymhlith eraill)—

(a)y person sy'n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd;

(b)y plentyn neu'r plant y darperir ef ar ei gyfer neu ar eu cyfer;

(c)natur y gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd;

(d)y fangre y darperir ef ynddi;

(e)yr adegau pan ddarperir ef;

(f)y trefniadau y darperir ef oddi tanynt.

(6)Yn yr adran hon ystyr “mangre ddomestig” yw unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd breifat.