(1)Rhaid i awdurdod lleol sefydlu ar gyfer ei ardal un neu fwy o dimau integredig cymorth i deuluoedd.
(2)Caiff dau awdurdod lleol (neu fwy) sy'n gweithredu gyda'i gilydd sefydlu tîm neu dimau integredig cymorth i deuluoedd ar gyfer eu dwy ardal (neu bob un o'u hardaloedd); ac os byddant yn gwneud hynny—
(a)mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon (ac eithrio adran 59(1)(b)) at awdurdod lleol neu at ei ardal i'w ddehongli'n unol â hynny, a
(b)mae'r cyfeiriad yn adran 59(1)(b) i'w ddehongli fel cyfeiriad at bob un o'r awdurdodau.
(3)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol—
(a)cymryd rhan yn sefydlu un neu fwy o dimau integredig cymorth i deuluoedd ar gyfer ei ardal o dan is-adran (1) neu (2), a
(b)cynorthwyo awdurdod lleol i gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rhan hon (os oes unrhyw ran o ardal y Bwrdd Iechyd Lleol yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 57 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
I2A. 57 mewn grym ar 1.9.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/1699, ergl. 2, Atod. 1
I3A. 57 mewn grym ar 28.2.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 3, Atod. 2
I4A. 57 mewn grym ar 31.3.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 4, Atod. 2
I5A. 57 mewn grym ar 1.2.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/18, ergl. 2(1)(2)(a)
I6A. 57 mewn grym ar 31.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1830, ergl. 3(1)(2)(a)
I7A. 57 mewn grym ar 28.2.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/373, ergl. 2(1)(2)(a)
(1)Rhaid i dîm integredig cymorth i deuluoedd gyflawni'r swyddogaethau cymorth i deuluoedd a bennir ar ei gyfer gan yr awdurdod lleol gyda chydsyniad pob Bwrdd Iechyd Lleol sy'n ymwneud â'r tîm.
(2)Swyddogaethau cymorth i deuluoedd yw—
(a)swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol rhagnodedig (o fewn ystyr Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (p. 42)), neu
(b)swyddogaethau rhagnodedig—
(i)Bwrdd Iechyd Lleol, neu
(ii)ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42).
(3)At ddibenion y Rhan hon, mae Bwrdd Iechyd Lleol yn ymwneud â thîm integredig cymorth i deuluoedd os yw unrhyw ran o ardal y Bwrdd Iechyd Lleol yn dod o fewn yr ardal y mae'r tîm yn ei chwmpasu.
(4)Mae swyddogaethau tîm integredig cymorth i deuluoedd i gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd o dan adran 61.
(5)Mae swyddogaethau cymorth i deuluoedd tîm integredig cymorth i deuluoedd i gael eu cyflawni ynglŷn â theulu yr atgyfeirir ef iddo gan yr awdurdod lleol.
(6)Caiff awdurdod lleol atgyfeirio teulu i dîm integredig cymorth i deuluoedd os yw yn rhesymol yn credu neu'n amau bod rhiant i blentyn yn y teulu hwnnw (neu darpar riant)—
(a)yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau,
(b)yn ddioddefwr trais domestig neu gamdriniaeth,
(c)a chanddo hanes ymddygiad treisiol neu ymddygiad o gam-drin, neu
(d)a chanddo anhwylder meddwl.
(7)At ddibenion is-adran (5), mae “teulu” yn cynnwys pob un o'r canlynol—
(a)plentyn mewn angen (neu blentyn sy'n derbyn gofal), rhieni'r plentyn ac, os yw'r awdurdod o'r farn ei fod yn briodol, unrhyw unigolyn arall sy'n gysylltiedig â'r plentyn neu'r rhieni;
(b)unigolion sydd ar fin dod yn rhieni i blentyn o dan amgylchiadau pan fo is-adran (8) yn gymwys ac, os yw'r awdurdod lleol o'r farn ei bod yn briodol unrhyw unigolyn arall sy'n gysylltiedig â'r unigolion sydd ar fin dod yn rhieni i'r plentyn hwnnw.
(8)Mae'r is-adran hon yn gymwys os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod y plentyn yn debygol o fod yn blentyn mewn angen os bydd yr unigolyn yn dod yn rhiant i'r plentyn hwnnw.
(9)Rhai i dîm integredig cymorth i deuluoedd werthuso a chofnodi effeithiolrwydd ei waith gyda'r teuluoedd yr atgyfeirir hwy iddo.
(10)Caiff rheoliadau—
(a)dosbarthu swyddogaethau cymorth i deuluoedd i dîm integredig cymorth i deuluoedd;
(b)caniatáu i awdurdodau lleol wneud atgyfeiriadau i'r tîm integredig cymorth i deuluoedd mewn amgylchiadau nas crybwyllir yn yr adran hon.
(11)Nid yw dosbarthu swyddogaethau o dan yr adran hon yn effeithio ar y canlynol—
(a)atebolrwydd Bwrdd Iechyd Lleol wrth arfer unrhyw un neu unrhyw rai o'i swyddogaethau,
(b)atebolrwydd awdurdod lleol wrth arfer unrhyw un neu unrhyw rai o'i swyddogaethau, neu
(c)unrhyw bŵer neu ddyletswydd i adennill ffioedd ynghylch gwasanaethau a roddwyd wrth arfer unrhyw swyddogaethau llywodraeth leol.
(12)Mae swyddogaeth a bennir o dan yr adran hon yn arferadwy yn gydredol gan y tîm integredig cymorth i deuluoedd a'r corff y rhoddir y swyddogaeth iddo.
(13)Yn yr adran hon—
ystyr “anhwylder meddwl” (“mental disorder”) yw unrhyw anhwylder neu anabledd meddwl;
mae “cam-drin” (“abuse”) yn cynnwys gweithgaredd rhywiol heb gydsyniad yn ogystal ag ymddygiad afresymol sy'n debygol o beri niwed seicolegol difrifol; mae cam-drin yn “gam-drin domestig” os daw oddi wrth unigolyn sy'n gysylltiedig â'r dioddefwr; ac mae “camdriniaeth” a “camdriniol” i'w dehongli'n unol â hynny;
ystyr “plentyn mewn angen” (“child in need”) yw plentyn mewn angen at ddibenion Rhan 3 o Deddf Plant 1989 (p. 41);
ystyr “plentyn sy'n derbyn gofal” (“looked after child”) yw plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol (o fewn ystyr adran 22(1) i Ddeddf Plant 1989 (p. 41));
mae “rhiant” (“parent”), o ran plentyn, yn cynnwys unrhyw unigolyn—
nad yw'n rhiant i'r plentyn ond bod ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu
sydd â gofal y plentyn;
ystyr “trais” (“violence”) yw trais neu fygythiadau o drais sy'n debygol o gael eu cyflawni ac mae “treisiol” i'w ddehongli'n unol â hynny; mae trais yn drais domestig os daw oddi wrth unigolyn sy'n gysylltiedig â'r dioddefwr.
(14)At ddibenion y diffiniad o “rhiant” yn is-adran (13)—
(a)mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989 (p. 41);
(b)wrth benderfynu a oes gan unigolyn ofal am blentyn, mae unrhyw absenoldeb o'r plentyn mewn ysbyty, cartref plant neu leoliad maeth ac unrhyw absenoldeb arall dros dro i'w ddiystyru.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 58 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
I9A. 58(1)-(5)(6)(a)(7)-(14) mewn grym ar 1.9.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/1699, ergl. 2, Atod. 1
I10A. 58(1)(3)-(5)(6)(a)(7)-(14) mewn grym ar 28.2.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 3, Atod. 2
I11A. 58(1)(3)-(5)(6)(a)(7)-(14) mewn grym ar 31.3.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 4, Atod. 2
I12A. 58(1)(3)-(5)(6)(a)(7)-(14) mewn grym ar 1.2.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/18, ergl. 2(1)(2)(b)
I13A. 58(1)(3)-(5)(6)(a)(7)-(9)(11)-(14) mewn grym ar 31.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1830, ergl. 3(1)(2)(b)
I14A. 58(1)(3)-(5)(6)(a)(7)-(9)(11)-(14) mewn grym ar 28.2.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/373, ergl. 2(1)(2)(b)
I15A. 58(2) mewn grym ar 27.1.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/191, ergl. 2, Atod. 1
I16A. 58(10) mewn grym ar 19.7.2013 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1830, ergl. 2(1)(2)(a)
(1)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol dalu tuag at wariant a dynnir gan dîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol neu at ddibenion sy'n gysylltiedig ag ef—
(a)drwy wneud taliadau uniongyrchol, neu
(b)drwy gyfrannu i gronfa, a sefydlwyd ac a gynhelir gan yr awdurdod lleol, y ceir gwneud y taliadau ohoni.
(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ar gyfer cyllido timau integredig cymorth i deuluoedd ac mewn cysylltiad â hynny, gan gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch gwariant—
(a)ar gyfer swyddi neu gategorïau o swydd mewn timau integredig cymorth i deuluoedd;
(b)ar gyfer gwasanaethau penodol cymorth i deuluoedd neu wasanaethau o'r fath yn gyffredinol;
(c)ar gyfer gweinyddu timau integredig cymorth i deuluoedd;
(d)at unrhyw ddiben arall sy'n gysylltiedig â thimau integredig cymorth i deuluoedd.
(3)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety neu adnoddau eraill i dîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol neu mewn cysylltiad ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 59 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
I18A. 59 mewn grym ar 1.9.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/1699, ergl. 2, Atod. 1
I19A. 59 mewn grym ar 28.2.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 3, Atod. 2
I20A. 59 mewn grym ar 31.3.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 4, Atod. 2
I21A. 59 mewn grym ar 1.2.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/18, ergl. 2(1)(2)(c)
I22A. 59(1)(3) mewn grym ar 31.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1830, ergl. 3(1)(2)(c)
I23A. 59(1)(3) mewn grym ar 28.2.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/373, ergl. 2(1)(2)(c)
I24A. 59(2) mewn grym ar 19.7.2013 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1830, ergl. 2(1)(2)(b)
(1)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod tîm integredig cymorth i deuluoedd yn cynnwys personau rhagnodedig.
(2)Caiff awdurdod lleol gynnwys y cyfryw bersonau eraill mewn tîm integredig cymorth i deuluoedd ag y mae o'r farn eu bod yn briodol gyda chydsyniad pob Bwrdd Iechyd Lleol sy'n ymwneud â'r tîm.
Gwybodaeth Cychwyn
I25A. 60 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
I26A. 60 mewn grym ar 1.9.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/1699, ergl. 2, Atod. 1
I27A. 60(1) mewn grym ar 27.1.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/191, ergl. 2, Atod. 1
I28A. 60(2) mewn grym ar 28.2.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 3, Atod. 2
I29A. 60(2) mewn grym ar 31.3.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 4, Atod. 2
I30A. 60(2) mewn grym ar 1.2.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/18, ergl. 2(1)(2)(d)
I31A. 60(2) mewn grym ar 31.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1830, ergl. 3(1)(2)(d)
I32A. 60(2) mewn grym ar 28.2.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/373, ergl. 2(1)(2)(d)
(1)Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu bwrdd integredig cymorth i deuluoedd ynglŷn â thîm neu dimau a sefydlwyd ar gyfer ei ardal o dan adran 57.
(2)Os bydd dau awdurdod lleol (neu fwy) sy'n gweithredu gyda'i gilydd yn sefydlu tîm neu dimau integredig cymorth i deuluoedd ar gyfer eu dwy ardal (neu bob un o'u hardaloedd), rhaid i'r awdurdodau sefydlu un bwrdd integredig cymorth i deuluoedd.
(3)Rhaid i fwrdd a sefydlir o dan yr adran hon gynnwys pob un o'r canlynol—
(a)cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol;
(b)os nad cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol yw'r cyfarwyddwr arweiniol dros wasanaethau plant a phersonau ifanc (o fewn ystyr adran 27(1)(a) o Ddeddf Plant 2004 (p. 21)), y cyfarwyddwr arweiniol dros wasanaethau plant a phersonau ifanc;
(c)y swyddog arweiniol dros wasanaethau plant a phersonau ifanc (o fewn ystyr adran 27(2)(a) o Ddeddf Plant 2004 (p. 21)) o bob un o'r Byrddau Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o'u hardal yn dod o fewn yr ardal y mae'r tîm yn ei chwmpasu.
(4)Rhaid i fwrdd a sefydlwyd ar gyfer mwy nag un awdurdod lleol gynnwys y personau a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) o is-adran (3) o bob awdurdod lleol.
(5)Caiff awdurdod lleol benodi aelodau eraill i fwrdd gyda chydsyniad pob Awdurdod Iechyd Lleol sy'n ymwneud â'r tîm integredig cymorth i deuluoedd.
(6)Mae aelod a benodir o dan is-adran (5) yn dal ei swydd ac yn ymadael â hi yn unol â thelerau'r penodiad.
(7)Caiff awdurdod lleol dalu taliadau a lwfansau i aelod a benodir o dan is-adran (5).
Gwybodaeth Cychwyn
I33A. 61 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
I34A. 61 mewn grym ar 1.9.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/1699, ergl. 2, Atod. 1
I35A. 61 mewn grym ar 28.2.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 3, Atod. 2
I36A. 61 mewn grym ar 31.3.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 4, Atod. 2
I37A. 61 mewn grym ar 1.2.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/18, ergl. 2(1)(2)(e)
I38A. 61 mewn grym ar 31.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1830, ergl. 3(1)(2)(e)
I39A. 61 mewn grym ar 28.2.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/373, ergl. 2(1)(2)(e)
(1)Amcanion y byrddau integredig cymorth i deuluoedd yw—
(a)sicrhau effeithiolrwydd yr hyn a wneir gan y timau integredig cymorth i deuluoedd y maent yn ymwneud â hwy;
(b)hybu arferion da gan yr awdurdodau lleol a'r Byrddau Iechyd Lleol sy'n cymryd rhan yn y timau o ran y swyddogaethau a bennir i'r timau;
(c)sicrhau bod gan fyrddau integredig cymorth i deuluoedd adnoddau digonol i gyflawni eu swyddogaethau;
(d)sicrhau bod yr awdurdodau lleol a'r Byrddau Iechyd Lleol sy'n cymryd rhan yn y timau integredig cymorth i deuluoedd yn cydweithredu â'r timau integredig cymorth i deuluoedd wrth iddynt gyflawni swyddogaethau'r timau.
(2)Mae bwrdd integredig cymorth i deuluoedd i gael y cyfryw swyddogaethau o ran ei amcanion ag a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I40A. 62 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
I41A. 62 mewn grym ar 1.9.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/1699, ergl. 2, Atod. 1
I42A. 62(1) mewn grym ar 28.2.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 3, Atod. 2
I43A. 62(1) mewn grym ar 31.3.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 4, Atod. 2
I44A. 62(1) mewn grym ar 1.2.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/18, ergl. 2(1)(2)(f)
I45A. 62(1) mewn grym ar 31.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1830, ergl. 3(1)(2)(f)
I46A. 62(1) mewn grym ar 28.2.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/373, ergl. 2(1)(2)(f)
I47A. 62(2) mewn grym ar 27.1.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/191, ergl. 2, Atod. 1
Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer—
(a)adolygu achosion a atgyfeirir i dimau integredig cymorth i deuluoedd;
(b)cwynion ac anghydfodau ynghylch arfer swyddogaethau gan dimau integredig cymorth i deuluoedd;
(c)darparu gwybodaeth ynghylch timau integredig cymorth i deuluoedd;
(d)rhannu gwybodaeth rhwng awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, timau a byrddau integredig cymorth i deuluoedd;
(e)cyfrifon ac archwilio o ran swyddogaethau a bennir i dimau integredig cymorth i deuluoedd;
(f)y gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan fwrdd integredig cymorth i deuluoedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I48A. 63 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
I49A. 63 mewn grym ar 1.9.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/1699, ergl. 2, Atod. 1
I50A. 63 mewn grym ar 27.1.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/191, ergl. 2, Atod. 1
(1)Rhaid i bob bwrdd integredig cymorth i deuluoedd lunio adroddiad blynyddol ar gyfer—
(a)yr awdurdod lleol;
(b)pob Bwrdd Iechyd Lleol sy'n ymwneud â'r timau integredig cymorth i deuluoedd y mae'r bwrdd yn gyfrifol amdanynt;
(c)Gweinidogion Cymru.
(2)Rhaid i'r adroddiad fod ynghylch effeithiolrwydd pob tîm integredig cymorth i deuluoedd y mae'r bwrdd yn ymwneud ag ef a chaiff gynnwys unrhyw beth arall sy'n berthnasol i waith y tîm neu waith y bwrdd.
Gwybodaeth Cychwyn
I51A. 64 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
I52A. 64 mewn grym ar 1.9.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/1699, ergl. 2, Atod. 1
I53A. 64 mewn grym ar 28.2.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 3, Atod. 2
I54A. 64 mewn grym ar 31.3.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 4, Atod. 2
I55A. 64 mewn grym ar 1.2.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/18, ergl. 2(1)(2)(g)
I56A. 64 mewn grym ar 31.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1830, ergl. 3(1)(2)(g)
I57A. 64 mewn grym ar 28.2.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/373, ergl. 2(1)(2)(g)
Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i'r cyrff canlynol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru—
(a)awdurdod lleol;
(b)Bwrdd Iechyd Lleol;
(c)tîm integredig cymorth i deuluoedd;
(d)bwrdd integredig cymorth i deuluoedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I58A. 65 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
I59A. 65 mewn grym ar 1.9.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/1699, ergl. 2, Atod. 1
I60A. 65 mewn grym ar 28.2.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 3, Atod. 2
I61A. 65 mewn grym ar 31.3.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 4, Atod. 2
I62A. 65 mewn grym ar 1.2.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/18, ergl. 2(1)(2)(h)
I63A. 65 mewn grym ar 31.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1830, ergl. 3(1)(2)(h)
I64A. 65 mewn grym ar 28.2.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/373, ergl. 2(1)(2)(h)