RHAN 3TIMAU INTEGREDIG CYMORTH I DEULUOEDD
Byrddau
I1I3I6I861Sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd
1
Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu bwrdd integredig cymorth i deuluoedd ynglŷn â thîm neu dimau a sefydlwyd ar gyfer ei ardal o dan adran 57.
2
Os bydd dau awdurdod lleol (neu fwy) sy'n gweithredu gyda'i gilydd yn sefydlu tîm neu dimau integredig cymorth i deuluoedd ar gyfer eu dwy ardal (neu bob un o'u hardaloedd), rhaid i'r awdurdodau sefydlu un bwrdd integredig cymorth i deuluoedd.
3
Rhaid i fwrdd a sefydlir o dan yr adran hon gynnwys pob un o'r canlynol—
a
cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol;
b
os nad cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol yw'r cyfarwyddwr arweiniol dros wasanaethau plant a phersonau ifanc (o fewn ystyr adran 27(1)(a) o Ddeddf Plant 2004 (p. 21)), y cyfarwyddwr arweiniol dros wasanaethau plant a phersonau ifanc;
c
y swyddog arweiniol dros wasanaethau plant a phersonau ifanc (o fewn ystyr adran 27(2)(a) o Ddeddf Plant 2004 (p. 21)) o bob un o'r Byrddau Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o'u hardal yn dod o fewn yr ardal y mae'r tîm yn ei chwmpasu.
4
Rhaid i fwrdd a sefydlwyd ar gyfer mwy nag un awdurdod lleol gynnwys y personau a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) o is-adran (3) o bob awdurdod lleol.
5
Caiff awdurdod lleol benodi aelodau eraill i fwrdd gyda chydsyniad pob Awdurdod Iechyd Lleol sy'n ymwneud â'r tîm integredig cymorth i deuluoedd.
6
Mae aelod a benodir o dan is-adran (5) yn dal ei swydd ac yn ymadael â hi yn unol â thelerau'r penodiad.
7
Caiff awdurdod lleol dalu taliadau a lwfansau i aelod a benodir o dan is-adran (5).
I2I462Swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd
I7I91
Amcanion y byrddau integredig cymorth i deuluoedd yw—
a
sicrhau effeithiolrwydd yr hyn a wneir gan y timau integredig cymorth i deuluoedd y maent yn ymwneud â hwy;
b
hybu arferion da gan yr awdurdodau lleol a'r Byrddau Iechyd Lleol sy'n cymryd rhan yn y timau o ran y swyddogaethau a bennir i'r timau;
c
sicrhau bod gan fyrddau integredig cymorth i deuluoedd adnoddau digonol i gyflawni eu swyddogaethau;
d
sicrhau bod yr awdurdodau lleol a'r Byrddau Iechyd Lleol sy'n cymryd rhan yn y timau integredig cymorth i deuluoedd yn cydweithredu â'r timau integredig cymorth i deuluoedd wrth iddynt gyflawni swyddogaethau'r timau.
I52
Mae bwrdd integredig cymorth i deuluoedd i gael y cyfryw swyddogaethau o ran ei amcanion ag a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.