RHAN 4AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Anghenion plant sy'n deillio o anghenion gofal cymunedol ac anghenion iechyd eu rhieni

67Anghenion plant sy'n deillio o anghenion gofal cymunedol eu rhieni

1

Mae'r adran hon yn gymwys i blentyn os yw'n ymddangos i awdurdod lleol bod rhiant y plentyn—

a

yn berson y gallai fod yn darparu neu'n trefnu ar ei gyfer ddarpariaeth o wasanaethau gofal cymunedol, a

b

y gallai fod arno angen unrhyw wasanaethau o'r fath.

2

Rhaid i awdurdod lleol ystyried a yw'n ymddangos i'r awdurdod bod y plentyn yn blentyn mewn angen o ganlyniad i anghenion y rhiant.

3

Rhaid i awdurdod lleol gymryd cyfrif o ganlyniadau ei ystyriaeth o dan is-adran (2) wrth benderfynu—

a

p'un ai asesu anghenion y plentyn at ddibenion adran 17 o Ddeddf Plant 1989 (p.41) (darparu gwasanaethau i blant mewn angen) ai peidio, a

b

pa wasanaethau, os o gwbl, i'w darparu o dan yr adran honno i'r plentyn neu i deulu'r plentyn.

4

Rhaid i awdurdod lleol gymryd cyfrif o ganlyniadau ei ystyriaeth o dan is-adran (2) wrth wneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â'r rhiant o dan adran 47(1)(b) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (asesiad o anghenion ar gyfer gwasanaethau gofal cymunedol).

5

Yn yr adran hon—

  • mae i “gwasanaethau gofal cymunedol” yr ystyr sydd i “community care services” yn adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990;

  • ystyr “plentyn mewn angen” (“child in need”) yw plentyn y bernir ei fod mewn angen at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Plant 1989.

6

Yn yr adran hon ac yn adran 68 mae “rhiant”, o ran plentyn, yn cynnwys unrhyw unigolyn—

a

nad yw'n rhiant i'r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu

b

sydd â gofal y plentyn.

7

At ddibenion is-adran (6)—

a

mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989 (p.41);

b

wrth benderfynu a yw unigolyn â gofal plentyn, mae unrhyw absenoldeb o ran y plentyn mewn ysbyty, cartref plant neu leoliad maeth ac unrhyw absenoldeb arall dros dro i'w anwybyddu.

68Anghenion plant sy'n deillio o gyflyrau iechyd eu rhieni

1

Mae'r adran hon yn gymwys ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd penodedig i riant plentyn os darperir y gwasanaethau neu os sicrheir hwy gan gorff Gwasanaeth Iechyd Gwladol penodedig.

2

Rhaid i gorff Gwasanaeth Iechyd Gwladol penodedig wneud y trefniadau hynny y mae'n barnu sy'n gweddu—

a

er mwyn ystyried effaith unrhyw gyflwr iechyd gan y rhiant ar anghenion y plentyn ac a fyddai'r effaith honno'n galw am ddarparu gwasanaethau gan awdurdod lleol wrth iddo arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol;

b

er mwyn atgyfeirio achosion priodol i'r awdurdod lleol perthnasol, yn ddarostyngedig i unrhyw dyletswydd sy'n ddyledus gan y corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol i'r plentyn neu i'r rhiant ynghylch datgelu gwybodaeth sy'n ymwneud â'r plentyn neu'r rhiant.

3

Yn yr adran hon—

  • ystyr “corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service body”) yw unrhyw un o'r canlynol—

    1. a

      Bwrdd Iechyd Lleol;

    2. b

      ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

  • ystyr “iechyd” (“health”) yw iechyd corfforol neu iechyd meddwl;

  • ystyr “penodedig” (“specified”) yw corff neu wasanaeth sy'n benodedig drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.