RHAN 1TLODI PLANT, CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN

PENNOD 2CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN

Cymryd rhan

I1I212Plant yn cymryd rhan ym mhenderfyniadau awdurdod lleol

1

Rhaid i awdurdod lleol wneud y cyfryw drefniadau ag y mae'n eu hystyried yn addas i hybu a hwyluso plant i gymryd rhan ym mhenderfyniadau'r awdurdod a allai effeithio arnynt.

2

Rhaid i awdurdod lleol—

a

cyhoeddi gwybodaeth ynghylch ei drefniadau o dan is-adran (1), a

b

diweddaru'r wybodaeth a gyhoeddir.

3

Diddymir adran 176 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) gan yr is-adran hon.