(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud y cyfryw drefniadau ag y mae'n eu hystyried yn addas i hybu a hwyluso plant i gymryd rhan ym mhenderfyniadau'r awdurdod a allai effeithio arnynt.
(2)Rhaid i awdurdod lleol—
(a)cyhoeddi gwybodaeth ynghylch ei drefniadau o dan is-adran (1), a
(b)diweddaru'r wybodaeth a gyhoeddir.
(3)Diddymir adran 176 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) gan yr is-adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
I2A. 12 mewn grym ar 31.1.2012 gan O.S. 2012/191, ergl. 5