RHAN 1TLODI PLANT, CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN
PENNOD 3AROLYGU, CANLLAWIAU A CHYFARWYDDIADAU
Arolygu
14Pwerau mynediad
1
Caiff unrhyw berson a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru, at ddibenion rheoliadau a wneir o dan adran 13, ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn—
a
i unrhyw fangre sydd ym mherchenogaeth neu o dan reolaeth awdurdod lleol;
b
i unrhyw fangre sy'n dod o fewn is-adran (3).
2
Ond nid yw is-adran (1) yn awdurdodi mynediad i mewn i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd breifat.
3
Y mangreoedd y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b) yw mangreoedd—
a
a ddefnyddir, neu yr arfaethir eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad â gwasanaethau neu gyfleusterau a sicrhawyd gan awdurdod lleol;
b
neu bod y person a awdurdodwyd o dan is-adran (1) yn rhesymol yn credu eu bod yn cael eu defnyddio felly, neu yr arfaethir eu defnyddio felly.
4
Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-adran (1)—
a
ar gyfer achlysur neu gyfnod penodol;
b
yn ddarostyngedig i amodau.
5
Rhaid i berson sy'n arfer unrhyw bŵer a roddir gan is-adran (1) neu adran 15, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos awdurdod y person hwnnw i wneud hynny.