RHAN 1TLODI PLANT, CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN

PENNOD 3AROLYGU, CANLLAWIAU A CHYFARWYDDIADAU

Arolygu

I115Pwerau arolygu

1

Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 14 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd o dan adran 14(4)(b))—

a

arolygu'r fangre;

b

arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion, cymryd copïau ohonynt neu eu symud oddi yno a hwythau'n ymwneud ag awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau o dan adrannau 7 i 12;

c

arolygu unrhyw eitem arall a'i symud o'r fangre;

d

cyf-weld yn breifat ag unrhyw berson sy'n gweithio yn y fangre.

2

Mae'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—

a

pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dal dogfennau neu gofnodion neu sy'n atebol amdanynt yn y fangre i'w dangos, a

b

o ran cofnodion a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur, pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu dangos ar ffurf sy'n eu gwneud yn ddarllenadwy ac y gellir eu cymryd oddi yno.

3

Nid yw'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—

a

i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu

b

i gymryd copïau o ddogfennau neu gofnodion o'r fath neu eu symud oddi yno.

4

O ran arolygu unrhyw ddogfennau o'r fath, caiff person a awdurdodwyd at ddibenion adran 14 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd o dan adran 14(4)(b))—

a

cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar cysylltiedig neu ddeunyddiau ac arolygu a gwirio eu gweithrediad y mae'r person hwnnw'n ystyried sy'n cael eu defnyddio neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau, a

b

ei gwneud yn ofynnol bod person sy'n dod o fewn is-adran (5) yn rhoi iddo'r cyfryw gymorth rhesymol ag y bo angen amdano at y diben hwnnw.

5

Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon —

a

os yw'n berson y mae'r cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio ganddo neu wedi cael ei ddefnyddio ganddo neu ar ei ran, neu

b

os yw'n berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd neu fel arall yn ymwneud â'u gweithredu.

6

Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 14 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 14(4)(b)) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi iddo'r cyfryw gyfleusterau a chymorth ynglŷn â materion sydd o dan reolaeth y person ag a fo'n angenrheidiol i'w alluogi i arfer pwerau o dan adran 14 neu o dan yr adran hon.

7

Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol—

a

yn rhwystro person rhag arfer unrhyw bŵer o dan adran 14(1) neu o dan yr adran hon, neu

b

yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr adran hon,

yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.