xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CTLODI PLANT, CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN

PENNOD 3LL+CAROLYGU, CANLLAWIAU A CHYFARWYDDIADAU

Canllawiau a chyfarwyddiadauLL+C

17CanllawiauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdod Cymreig arall o bryd i'w gilydd ynghylch—

(a)arfer swyddogaethau o dan adrannau 1 i 10, neu

(b)unrhyw gam i hybu'r nodau eang i gyfrannu at ddileu tlodi plant.

(2)Rhaid i awdurdod Cymreig roi sylw i'r canllawiau wrth arfer ei swyddogaethau.

(3)Wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 11 a 12, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 17 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 17 mewn grym ar 10.1.2011 gan O.S. 2010/2994, ergl. 2(e)