RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT
Y prif dermau
I1I219Ystyr “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant”
1
Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
2
Mae person yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'r person yn gofalu am blentyn neu blant o dan F1ddeuddeng oed mewn mangre ddomestig er mwyn gwobr; ac mae “gwarchod plant” i'w ddehongli yn unol â hynny.
3
Mae person yn darparu gofal dydd i blant os yw'r person yn darparu gofal ar unrhyw adeg i blant o dan F2ddeuddeng oed mewn mangre heblaw mangre ddomestig; ac mae “gofal dydd i blant” a “gofal dydd” i'w dehongli yn unol â hynny.
4
Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn—
a
diwygio is-adran (2) neu (3) i amnewid oedran gwahanol;
b
darparu, o dan yr amgylchiadau a bennir yn y gorchymyn, nad yw person yn gweithredu fel gofalydd plant at ddibenion y Rhan hon;
c
darparu, o dan yr amgylchiadau a bennir yn y gorchymyn, nad yw person yn darparu gofal dydd at ddibenion y Rhan hon.
5
Caiff yr amgylchiadau a bennir mewn gorchymyn ymwneud ag un neu fwy o'r materion canlynol (ymhlith eraill)—
a
y person sy'n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd;
b
y plentyn neu'r plant y darperir ef ar ei gyfer neu ar eu cyfer;
c
natur y gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd;
d
y fangre y darperir ef ynddi;
e
yr adegau pan ddarperir ef;
f
y trefniadau y darperir ef oddi tanynt.
6
Yn yr adran hon ystyr “mangre ddomestig” yw unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd breifat.