RHAN 1TLODI PLANT, CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN
PENNOD 1DILEU TLODI PLANT
Strategaethau
2Strategaethau i gyfrannu at ddileu tlodi plant
1
Rhaid i awdurdod Cymreig lunio a chyhoeddi strategaeth i gyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru sy'n gosod pob un o'r canlynol—
a
amcanion a ddewiswyd gan yr awdurdod (yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4))—
i
sy'n ymwneud ag unrhyw un neu unrhyw rai o'r nodau eang i gyfrannu at ddileu tlodi plant, a
ii
y gellir eu dilyn wrth iddo arfer ei swyddogaethau;
b
unrhyw amcanion a bennir mewn perthynas â'r awdurdod mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (5);
c
camau sydd i'w cyflawni a swyddogaethau sydd i'w harfer gan yr awdurdod at ddibenion cyflawni'r amcanion o dan baragraff (a) ac, os pennir unrhyw amcanion mewn perthynas â'r awdurdod mewn rheoliadau o dan is-adran (5), o dan baragraff (b).
2
Rhaid i awdurdod Cymreig gymryd pob cam rhesymol i gyflawni'r camau ac arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(c) yn unol â'i strategaeth.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru ac awdurdod lleol ddewis ystod o amcanion o dan is-adran (1)(a) sy'n ymwneud â'r holl nodau eang i ddileu tlodi plant.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd ddewis amcanion o dan is-adran (1)(a)—
a
sy'n ymwneud â'u pwerau i ddarparu cyllid i unrhyw berson, a
b
sy'n hybu'r nodau eang i ddileu tlodi plant.
5
Caiff Gweinidogion Cymru bennu amcanion ar gyfer awdurdod Cymreig mewn rheoliadau—
a
os yw'r amcanion yn ymwneud ag un o'r nodau eang neu fwy ohonynt ar gyfer cyfrannu at ddileu tlodi plant, a
b
os caniateir i awdurdod Cymreig ddilyn yr amcanion wrth iddo arfer ei swyddogaethau.
6
Caiff rheoliadau o dan is-adran (5) hefyd ddarparu nad yw is-adran (1)(a) a pharagraff (c) o'r is-adran honno (fel y mae'n ymwneud ag is-adran (a)) yn gymwys i awdurdod Cymreig i'r graddau a bennir yn y rheoliadau.
7
At ddibenion yr adran hon, mae cyfeiriad at gam sydd i'w gyflawni neu at swyddogaeth sydd i'w harfer gan awdurdod Cymreig yn gyfeiriad at gam neu swyddogaeth sydd o fewn pwerau awdurdod Cymreig.
8
O ran darparu ynghylch llunio a chyhoeddi strategaethau, gweler adrannau 3 i 5 o'r Mesur hwn ac adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31).