RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT
Cofrestru gwarchod plant
I1I221Dyletswydd gwarchodwyr plant i gofrestru
1
Rhaid i berson beidio â gweithredu'n warchodwr plant yng Nghymru oni bai bod y person hwnnw wedi'i gofrestru'n warchodwr plant gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon.
2
Os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod person yn gweithredu fel gwarchodwr plant heb iddo gael ei gofrestru i wneud hynny o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gorfodi”) i'r person hwnnw.
3
Ceir cyflwyno hysbysiad gorfodi i berson—
a
drwy ei draddodi i'r person, neu
b
drwy ei anfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person.
4
Mae hysbysiad gorfodi yn effeithiol am gyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad pan gyflwynir ef.
5
Mae person (“P”) sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant yn groes i is-adran (1) yn cyflawni tramgwydd —
a
os oes hysbysiad gorfodi yn effeithiol mewn perthynas â P, a
b
os yw P yn gweithredu fel gwarchodwr plant heb esgus rhesymol.
6
Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y is-adran (5) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.