Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

25Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plantLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Caiff y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant gynnwys gofynion sy'n ymwneud â'r canlynol—

(a)y ceisydd;

(b)y fangre y darperir y gwasanaeth gwarchod plant ynddi;

(c)y trefniadau ar gyfer gwarchod plant yn y fangre honno;

(d)unrhyw berson a all fod yn gofalu am blant yn y fangre honno;

(e)unrhyw berson a all fod yn y fangre honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 25 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)