RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT
Y broses gofrestru a gofynion cofrestru
I1I226Ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blant
1
Caiff person sy'n bwriadu darparu gofal dydd i blant mewn mangre benodol wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestru fel darparydd gofal dydd yn y fangre honno.
2
Rhaid i gais—
a
rhoi unrhyw wybodaeth a ragnodwyd am faterion a ragnodwyd,
b
rhoi unrhyw wybodaeth arall y gall Gweinidogion Cymru yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ei rhoi, ac
c
cynnwys gydag ef unrhyw ffi a ragnodwyd.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais—
a
os na chafodd y ceisydd ei anghymwyso rhag cofrestru o dan adran 38, a
b
os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod yr holl ofynion rhagnodedig i gofrestru darparwyr gofal dydd wedi eu bodloni a'u bod yn debygol o barhau i fod wedi eu bodloni.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod unrhyw gais o dan is-adran (1) nad yw is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu.