RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT
Diddymu ac atal cofrestriad
I1I232Atal cofrestriad
1
Caiff rheoliadau ddarparu bod cofrestriad unrhyw berson o dan y Rhan hon yn cael ei atal.
2
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch—
a
cyfnod yr ataliad;
b
yr amgylchiadau y ceir atal cofrestriad ynddynt;
c
atal cofrestriad ar gais y person cofrestredig.
3
Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth yn rhoi i'r person cofrestredig hawl i apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn ataliad.
4
Nid yw'r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas ag ataliad ar gais y person cofrestredig.
5
Rhaid i berson a gofrestrwyd o dan y Rhan hon i warchod plant gan Weinidogion Cymru beidio â gweithredu fel gwarchodwr plant yng Nghymru ar adeg pan fydd y cofrestriad hwnnw wedi'i atal.
6
Rhaid i berson a gofrestrwyd o dan y Rhan hon i ddarparu gofal dydd yn unrhyw fangre gan Weinidogion Cymru beidio â darparu gofal dydd yn y fangre honno ar unrhyw adeg pan fydd y cofrestriad hwnnw wedi'i atal.
7
Os yw person yn mynd yn groes i is-adran (5) neu (6) heb esgus rhesymol, mae'r person hwnnw'n euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.