RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT
Diddymu ac atal cofrestriad
I1I233Tynnu oddi ar y gofrestr yn wirfoddol
1
Caiff person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon hysbysu Gweinidogion Cymru i dynnu'r person hwnnw oddi ar y gofrestr gwarchod plant neu (yn ôl y digwydd) y gofrestr gofal dydd i blant.
2
Os bydd person yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru dynnu'r person hwnnw oddi ar y gofrestr gwarchod plant neu (yn ôl y digwydd) y gofrestr gofal dydd i blant.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gweithredu o dan is-adran (2)—
a
os yw Gweinidogion Cymru wedi anfon hysbysiad at y person (o dan adran 36) o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad y person, a
b
os yw Gweinidogion Cymru yn dal i fwriadu cymryd y cam hwnnw.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gweithredu o dan is-adran (2)—
a
os yw Gweinidogion Cymru wedi anfon hysbysiad at y person (o dan adran 36) o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad y person hwnnw, a
b
os nad yw'r amser y gellir dwyn apêl o dan adran 37 wedi dod i ben neu, os gwnaed y cyfryw apêl, na chafodd ei phenderfynu.