Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

34Amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriadLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)O ran person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i ynad heddwch am orchymyn yn diddymu cofrestriad y person.

(2)Os yw'n ymddangos i'r ynad bod plentyn y mae'r person hwnnw yn ei warchod neu'n darparu gofal dydd iddo, neu y gallai'r person hwnnw fod yn ei warchod neu'n darparu gofal dydd iddo, a bod y plentyn yn dioddef niwed arwyddocaol, neu'n debygol o wneud hynny, caniateir i'r ynad wneud y gorchymyn.

(3)Caniateir i gais o dan is-adran (1) gael ei wneud heb hysbysiad.

(4)O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig, a

(b)bydd yn effeithiol o'r amser y gwneir ef.

(5)Os gwneir gorchymyn o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno i'r person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y gorchymyn—

(a)copi o'r gorchymyn,

(b)copi o unrhyw ddatganiad ysgrifenedig yn cefnogi'r cais am y gorchymyn, ac

(c)hysbysiad o unrhyw hawl i apelio a roddir gan adran 37(2).

(6)Caniateir cyflwyno'r dogfennau a grybwyllir yn is-adran (5) i'r person cofrestredig—

(a)drwy eu traddodi i'r person, neu

(b)drwy eu hanfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person.

(7)Os gwneir gorchymyn o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl ar ôl gwneud y gorchymyn, hysbysu'r awdurdod lleol y mae neu yr oedd y person yn gweithredu neu wedi gweithredu yn ei ardal fel gwarchodwr plant, neu'n darparu neu wedi darparu gofal dydd ynddi, bod y gorchymyn wedi'i wneud.

(8)At ddibenion yr adran hon ac adran 35, mae i “niwed” yr ystyr sydd i “harm” yn Neddf Plant 1989 (p. 41) ac mae'r cwestiwn a yw niwed yn arwyddocaol yn un sydd i'w benderfynu yn unol ag adran 31(10) o'r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 34 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 34 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)