RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT
Diogelwch gweithdrefnol
I1I237Apelau
1
Caiff ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) berson cofrestredig apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn unrhyw un neu unrhyw rai o'r camau canlynol gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon—
a
gwrthod cais i gofrestru;
b
gosod amod newydd wrth gofrestru;
c
amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd wrth gofrestru;
d
gwrthod cais i amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod o'r fath;
e
diddymu cofrestriad.
2
Caiff y personau canlynol hefyd apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf—
a
ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) berson cofrestredig ynglŷn â phenderfyniad a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon o ddisgrifiad a ragnodwyd;
b
person cofrestredig y gwnaed gorchymyn yn ei erbyn o dan adran 34;
c
person cofrestredig y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 35.
3
Pan fo apêl, rhaid i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf—
a
naill ai gadarnhau bod y cam yn cael ei gymryd, bod y penderfyniad arall yn cael ei wneud, bod y gorchymyn yn cael ei wneud, neu bod yr hysbysiad yn cael ei roi (yn ôl y digwydd), neu
b
cyfarwyddo nad yw'n cael effaith neu ei fod yn peidio â chael effaith.
4
Oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi cadarnhau bod cymryd cam a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (e) neu wneud gorchymyn o dan adran 34 yn diddymu cofrestriad person, caiff y Tribiwnlys hefyd wneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu wneud y ddau ohonynt—
a
gosod amodau ar gofrestriad y person o dan sylw;
b
amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd cyn hynny ar gofrestriad y person.