RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT
Anghymwyso rhag cofrestru
I1I239Canlyniadau anghymwyso
1
Rhaid i berson sydd wedi ei anghymwyso rhag cofrestru o dan y Rhan hon gan reoliadau o dan adran 38 beidio â gwneud y canlynol—
a
gweithredu fel gwarchodwr plant yng Nghymru,
b
darparu gofal dydd yng Nghymru neu ymwneud yn uniongyrchol â rheolaeth unrhyw ddarpariaeth gofal dydd yng Nghymru.
2
Rhaid i berson beidio â chyflogi, mewn cysylltiad â darparu gofal dydd neu wasanaeth gwarchod plant yng Nghymru, berson sydd wedi'i anghymwyso rhag cofrestru o dan y Rhan hon gan reoliadau o dan adran 38.
3
Mae person sy'n mynd yn groes i is-adran (1) neu (2) yn cyflawni tramgwydd.
4
Nid yw person sy'n mynd yn groes i is-adran (1) yn euog o dramgwydd o dan is-adran (3)—
a
os yw'r person wedi'i anghymwyso rhag cofrestru yn unig yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 38(4), a
b
os yw'r person yn profi na wyddai, ac nad oedd ganddo sail resymol dros gredu, ei fod yn byw—
i
ar yr un aelwyd â pherson a oedd wedi'i anghymwyso rhag cofrestru, neu
ii
ar aelwyd yr oedd y cyfryw berson yn cael ei gyflogi yno.
5
Nid yw person sy'n mynd yn groes i is-adran (2) yn euog o dramgwydd o dan is-adran (3) os yw'r person yn profi na wyddai, ac nad oedd ganddo sail resymol dros gredu, bod y person a gyflogwyd wedi'i anghymwyso rhag cofrestru.
6
Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (3) yn atebol ar gollfarn ddiannod i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na 51 o wythnosau, neu i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu i'r ddau.
7
O ran tramgwydd a gyflawnwyd cyn cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) (newid mewn cosbau ar gyfer tramgwyddau diannod), mae'r cyfeiriad at 51 o wythnosau yn is-adran (7) i'w ddarllen fel cyfeiriad at 6 mis.