RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT
Arolygu
41Pwerau mynediad
1
Caiff unrhyw berson a awdurdodwyd at ddibenion yr is-adran hon gan Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn i unrhyw fangre yng Nghymru lle y darperir gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd ar unrhyw adeg.
2
Caiff unrhyw berson a awdurdodwyd at ddibenion yr is-adran hon gan Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn i unrhyw fangre yng Nghymru os oes gan y person achos rhesymol dros gredu bod plentyn yn derbyn gofal yn unrhyw fangre yn groes i'r Rhan hon.
3
Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-adran (1) neu (2)—
a
ar gyfer achlysur neu gyfnod penodol;
b
yn ddarostyngedig i amodau.
4
Rhaid i berson sy'n arfer unrhyw bŵer a roddir gan yr adran hon neu adran 42, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos awdurdod y person hwnnw i wneud hynny.