RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT
Tramgwyddau, achosion troseddol a chosbau penodedig
I1I248Hysbysiadau o gosb: darpariaethau atodol
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth am unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol—
a
ffurf a chynnwys yr hysbysiadau o gosb;
b
swm ariannol y gosb ac erbyn pa bryd y mae i'w thalu;
c
penderfynu'r dulliau y gellir talu cosbau drwyddynt;
d
y cofnodion sydd i'w cadw o ran hysbysiadau o gosb;
e
tynnu hysbysiad o gosb yn ôl, mewn amgylchiadau a ragnodwyd, gan gynnwys—
i
ad-dalu unrhyw swm a dalwyd am gosb o dan hysbysiad o gosb a dynnir yn ôl, a
ii
gwahardd codi achos cyfreithiol neu barhau ag ef am y tramgwydd y mae'r hysbysiad a dynnir yn ôl yn ymwneud ag ef;
f
tystysgrifau sydd i'w derbyn yn dystiolaeth—
i
sy'n honni eu bod wedi'u llofnodi gan neu ar ran person a ragnodwyd, a
ii
sy'n datgan bod taliad o unrhyw swm a dalwyd am gosb wedi dod i law neu, yn ôl y digwydd, heb ddod i law ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif neu cyn y dyddiad hwnnw;
g
camau sydd i'w cymryd os na thelir cosb yn unol â hysbysiad o gosb;
h
unrhyw beth arall o ran cosbau neu hysbysiadau o gosb y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus.
2
O ran rheoliadau o dan is-adran (1)(b)—
a
cânt ddarparu ar gyfer cosbau o symiau gwahanol i fod yn daladwy mewn achosion gwahanol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer y gosb sy'n daladwy o dan hysbysiad o gosb i wahaniaethu yn unol â'r amser erbyn pryd y telir hi, ond
b
rhaid iddynt sicrhau nad yw swm unrhyw gosb sy'n daladwy o ran unrhyw dramgwydd yn fwy nag un hanner mwyafswm y ddirwy y byddai person sy'n cyflawni tramgwydd yn atebol amdani ar gollfarn ddiannodF1neu, pan na fo mwyafswm o’r fath, nad yw’n fwy na’r swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol ar gyfer tramgwyddau diannod.
3
Yn yr adran hon—
ystyr “cosb” yw cosb o dan hysbysiad o gosb;
mae i “hysbysiad o gosb” yr ystyr a roddir gan adran 47.