RHAN 1TLODI PLANT, CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN
PENNOD 1DILEU TLODI PLANT
Strategaethau
5Strategaethau a lunnir gan awdurdodau Cymreig eraill
(1)
Yn yr adran hon nid yw cyfeiriad at “awdurdod Cymreig” yn cynnwys—
(a)
Gweinidogion Cymru;
(b)
awdurdod lleol.
(2)
Mae is-adran (3) yn gymwys i strategaeth awdurdod Cymreig o dan adran 2.
(3)
Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer—
(a)
y cyfnod y mae'r strategaeth i ymwneud ag ef;
(b)
pryd a sut y mae'n rhaid cyhoeddi strategaeth;
(c)
cadw golwg gyson ar strategaeth;
(d)
ymgynghori cyn cyhoeddi strategaeth.
F1(4)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(5)
Bydd dyletswydd awdurdod Cymreig o dan adran 2(1) i gyhoeddi strategaeth wedi ei chyflawni os yw'r strategaeth yn rhan annatod o F2gynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardal awdurdod lleol y mae’r awdurdod Cymreig yn arfer swyddogaethau ynddi.