RHAN 3TIMAU INTEGREDIG CYMORTH I DEULUOEDD

Timau

I158Swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd

I2I4I5I6I8I91

Rhaid i dîm integredig cymorth i deuluoedd gyflawni'r swyddogaethau cymorth i deuluoedd a bennir ar ei gyfer gan yr awdurdod lleol gyda chydsyniad pob Bwrdd Iechyd Lleol sy'n ymwneud â'r tîm.

I2I32

Swyddogaethau cymorth i deuluoedd yw—

a

swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol rhagnodedig (o fewn ystyr Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (p. 42)), neu

b

swyddogaethau rhagnodedig—

i

Bwrdd Iechyd Lleol, neu

ii

ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42).

I2I4I5I6I8I93

At ddibenion y Rhan hon, mae Bwrdd Iechyd Lleol yn ymwneud â thîm integredig cymorth i deuluoedd os yw unrhyw ran o ardal y Bwrdd Iechyd Lleol yn dod o fewn yr ardal y mae'r tîm yn ei chwmpasu.

I2I4I5I6I8I94

Mae swyddogaethau tîm integredig cymorth i deuluoedd i gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd o dan adran 61.

I2I4I5I6I8I95

Mae swyddogaethau cymorth i deuluoedd tîm integredig cymorth i deuluoedd i gael eu cyflawni ynglŷn â theulu yr atgyfeirir ef iddo gan yr awdurdod lleol.

6

Caiff awdurdod lleol atgyfeirio teulu i dîm integredig cymorth i deuluoedd os yw yn rhesymol yn credu neu'n amau bod rhiant i blentyn yn y teulu hwnnw (neu darpar riant)—

I2I4I5I6I8a

yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau,

b

yn ddioddefwr trais domestig neu gamdriniaeth,

c

a chanddo hanes ymddygiad treisiol neu ymddygiad o gam-drin, neu

d

a chanddo anhwylder meddwl.

I2I4I5I6I8I97

At ddibenion is-adran (5), mae “teulu” yn cynnwys pob un o'r canlynol—

a

plentyn mewn angen (neu blentyn sy'n derbyn gofal), rhieni'r plentyn ac, os yw'r awdurdod o'r farn ei fod yn briodol, unrhyw unigolyn arall sy'n gysylltiedig â'r plentyn neu'r rhieni;

b

unigolion sydd ar fin dod yn rhieni i blentyn o dan amgylchiadau pan fo is-adran (8) yn gymwys ac, os yw'r awdurdod lleol o'r farn ei bod yn briodol unrhyw unigolyn arall sy'n gysylltiedig â'r unigolion sydd ar fin dod yn rhieni i'r plentyn hwnnw.

I2I4I5I6I8I98

Mae'r is-adran hon yn gymwys os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod y plentyn yn debygol o fod yn blentyn mewn angen os bydd yr unigolyn yn dod yn rhiant i'r plentyn hwnnw.

I2I4I5I6I8I99

Rhai i dîm integredig cymorth i deuluoedd werthuso a chofnodi effeithiolrwydd ei waith gyda'r teuluoedd yr atgyfeirir hwy iddo.

I2I4I5I6I710

Caiff rheoliadau—

a

dosbarthu swyddogaethau cymorth i deuluoedd i dîm integredig cymorth i deuluoedd;

b

caniatáu i awdurdodau lleol wneud atgyfeiriadau i'r tîm integredig cymorth i deuluoedd mewn amgylchiadau nas crybwyllir yn yr adran hon.

I2I4I5I6I8I911

Nid yw dosbarthu swyddogaethau o dan yr adran hon yn effeithio ar y canlynol—

a

atebolrwydd Bwrdd Iechyd Lleol wrth arfer unrhyw un neu unrhyw rai o'i swyddogaethau,

b

atebolrwydd awdurdod lleol wrth arfer unrhyw un neu unrhyw rai o'i swyddogaethau, neu

c

unrhyw bŵer neu ddyletswydd i adennill ffioedd ynghylch gwasanaethau a roddwyd wrth arfer unrhyw swyddogaethau llywodraeth leol.

I2I4I5I6I8I912

Mae swyddogaeth a bennir o dan yr adran hon yn arferadwy yn gydredol gan y tîm integredig cymorth i deuluoedd a'r corff y rhoddir y swyddogaeth iddo.

I2I4I5I6I8I913

Yn yr adran hon—

  • ystyr “anhwylder meddwl” (“mental disorder”) yw unrhyw anhwylder neu anabledd meddwl;

  • mae “cam-drin” (“abuse”) yn cynnwys gweithgaredd rhywiol heb gydsyniad yn ogystal ag ymddygiad afresymol sy'n debygol o beri niwed seicolegol difrifol; mae cam-drin yn “gam-drin domestig” os daw oddi wrth unigolyn sy'n gysylltiedig â'r dioddefwr; ac mae “camdriniaeth” a “camdriniol” i'w dehongli'n unol â hynny;

  • ystyr “plentyn mewn angen” (“child in need”) yw plentyn mewn angen at ddibenion Rhan 3 o Deddf Plant 1989 (p. 41);

  • ystyr “plentyn sy'n derbyn gofal” (“looked after child”) yw plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol (o fewn ystyr adran 22(1) i Ddeddf Plant 1989 (p. 41));

  • mae “rhiant” (“parent”), o ran plentyn, yn cynnwys unrhyw unigolyn—

    1. a

      nad yw'n rhiant i'r plentyn ond bod ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu

    2. b

      sydd â gofal y plentyn;

  • ystyr “trais” (“violence”) yw trais neu fygythiadau o drais sy'n debygol o gael eu cyflawni ac mae “treisiol” i'w ddehongli'n unol â hynny; mae trais yn drais domestig os daw oddi wrth unigolyn sy'n gysylltiedig â'r dioddefwr.

I2I4I5I6I8I914

At ddibenion y diffiniad o “rhiant” yn is-adran (13)—

a

mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989 (p. 41);

b

wrth benderfynu a oes gan unigolyn ofal am blentyn, mae unrhyw absenoldeb o'r plentyn mewn ysbyty, cartref plant neu leoliad maeth ac unrhyw absenoldeb arall dros dro i'w ddiystyru.