RHAN 3TIMAU INTEGREDIG CYMORTH I DEULUOEDD
Timau
I1I259Adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoedd
1
Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol dalu tuag at wariant a dynnir gan dîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol neu at ddibenion sy'n gysylltiedig ag ef—
a
drwy wneud taliadau uniongyrchol, neu
b
drwy gyfrannu i gronfa, a sefydlwyd ac a gynhelir gan yr awdurdod lleol, y ceir gwneud y taliadau ohoni.
2
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ar gyfer cyllido timau integredig cymorth i deuluoedd ac mewn cysylltiad â hynny, gan gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch gwariant—
a
ar gyfer swyddi neu gategorïau o swydd mewn timau integredig cymorth i deuluoedd;
b
ar gyfer gwasanaethau penodol cymorth i deuluoedd neu wasanaethau o'r fath yn gyffredinol;
c
ar gyfer gweinyddu timau integredig cymorth i deuluoedd;
d
at unrhyw ddiben arall sy'n gysylltiedig â thimau integredig cymorth i deuluoedd.
3
Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety neu adnoddau eraill i dîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol neu mewn cysylltiad ag ef.