59Adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoeddLL+C
(1)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol dalu tuag at wariant a dynnir gan dîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol neu at ddibenion sy'n gysylltiedig ag ef—
(a)drwy wneud taliadau uniongyrchol, neu
(b)drwy gyfrannu i gronfa, a sefydlwyd ac a gynhelir gan yr awdurdod lleol, y ceir gwneud y taliadau ohoni.
(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ar gyfer cyllido timau integredig cymorth i deuluoedd ac mewn cysylltiad â hynny, gan gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch gwariant—
(a)ar gyfer swyddi neu gategorïau o swydd mewn timau integredig cymorth i deuluoedd;
(b)ar gyfer gwasanaethau penodol cymorth i deuluoedd neu wasanaethau o'r fath yn gyffredinol;
(c)ar gyfer gweinyddu timau integredig cymorth i deuluoedd;
(d)at unrhyw ddiben arall sy'n gysylltiedig â thimau integredig cymorth i deuluoedd.
(3)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety neu adnoddau eraill i dîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol neu mewn cysylltiad ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 59 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
I2A. 59 mewn grym ar 1.9.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/1699, ergl. 2, Atod. 1
I3A. 59 mewn grym ar 28.2.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 3, Atod. 2
I4A. 59 mewn grym ar 31.3.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 4, Atod. 2
I5A. 59 mewn grym ar 1.2.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/18, ergl. 2(1)(2)(c)